Gobaith yr ymgyrch yw rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod
AS Arfon yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn gyda Llywydd y Senedd Elin Jones AS
Ddydd Llun, ymunodd Aelod y Senedd dros Arfon ag eraill i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, yr ymgyrch i ddod â diwedd i drais yn erbyn menywod.
Mae White Ribbon UK yn elusen sy'n ceisio dod â thrais dynion yn erbyn menywod i ben trwy ymgysylltu â dynion a bechgyn i sefyll yn erbyn trais.
Cenhadaeth yr elusen yw annog dynion i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
Cynhelir diwrnod ‘Dileu trais yn erbyn menywod a merched’ y Cenhedloedd Unedig ar 25 Tachwedd. Gelwir y diwrnod hefyd yn ‘ddiwrnod y Rhuban Gwyn’, ac fe gynhaliwyd gwylnos ‘Nid yn fy enw i’ ar risiau’r Senedd ddydd Llun;
“Mae'r achlysur hwn yn fwy perthnasol nag erioed.
“Fe wnaeth llofruddiaeth erchyll Sarah Everard yn gynharach eleni ddod â’r mater i sylw’r cyhoedd, gan arwain at ferched eraill yn rhannu eu profiadau ofnadwy.
“Pwyslais Diwrnod y Rhuban Gwyn yw codi llais ac annog dynion a bechgyn i ysgwyddo'r cyfrifoldeb i gael gwared â thrais yn erbyn menywod.
“Mae realiti’r ystadegau yn enbyd.
“O’r achosion o drais domestig a gafodd eu riportio yng Nghymru yn 2019, ni llwyddodd 88% ohonynt i gyrraedd y llys.
“Gwelwyd cynnydd o 83% mewn troseddau’n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru rhwng 2015-2019.
“Mae cyfartaledd y menywod sy’n cael eu treisio bob dydd yng Nghymru a Lloegr yn erchyll. 102.
“Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus, ac mae tystiolaeth ddiweddar gan fenywod o sbeicio drwy nodwyddau yn ddychrynllyd.
“Ddylen ni ddim gorfod ymgyrchu ar hyn, ond mae realiti tywyll y sefyllfa yn dangos bod angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r gwarth cymdeithasol yma.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter