Mae Wythnos Ambiwlans Awyr yn cychwyn heddiw er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith yr elusennau
Mae Siân Gwenllian MS ymhlith unigolion sydd wedi nodi Wythnos Ambiwlans Awyr
Mae Wythnos Ambiwlans Awyr yn cychwyn heddiw (6 Medi 2021), a phrif neges yr ymgyrch eleni yw “Mae Pob Eiliad, Pob Ceiniog yn Cyfri.”
Mae mwyafrif elusennau ambiwlans awyr y DU yn cymryd rhan, ac mae'r neges yn cyfeirio at waith hanfodol Ambiwlansys Awyr wrth achub bywydau.
Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd, ac mae wedi ymuno ag unigolion eraill, fel James Hook i nodi Wythnos Ambiwlans Awyr heddiw;
“Rwy’n falch o gael y cyfle i nodi Wythnos Ambiwlans Awyr eleni, ac atgyfnerthu eu neges bod bob eiliad, a phob ceiniog yn cyfri.
“Mae’r gofal cychwynnol cyflym y gall yr ambiwlansys awyr ei gynnig i gleifion cyn cyrraedd yr ysbyty yn hanfodol.
“Wrth gwrs, mae pawb yn gwerthfawrogi’r gwaith gwych mae nhw’n ei wneud, ond y gwir amdani yw y gall pob taith ambiwlans awyr gostio hyd at £2500 neu £3500.
“Mae pob ceiniog wir yn cyfrif.”
Cynhelir Wythnos Ambiwlans Awyr 2021 rhwng y 6ed a'r 12fed o Fedi 2021.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter