Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd ac mae wedi ymateb i gyhoeddiad Prif Weinidog yr Alban ei bod am roi’r gorau iddi.
Fe wnaeth Nicola Sturgeon, sydd hefyd yn arweinydd yr SNP gyhoeddi ei hymddiswyddiad yn Bute House heddiw.
Mae Siân Gwenllian AS wedi ymateb, gan sôn am ei “thristwch” o glywed y newyddion:
“Mae heddiw’n ddiwrnod trist iawn i’r Alban a gweddill gwledydd y DU.
“Mae ymrwymiad Nicola Sturgeon a’i Llywodraeth i gyfiawnder cymdeithasol yn glodwiw, ymrwymiad sy’n cael ei grisialu gan bolisïau radical fel Taliad Plant yr Alban, addysg prifysgol am ddim, bocsys i fabis newyddanedig a 1,140 awr o ofal plant o ansawdd uchel am ddim dim ond i enwi llond llaw.
“Ar gyfnodau pan oedd ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn dirywio, bu’n ymgorfforiad o integriti, gonestrwydd a thryloywder. Roedd y rhinweddau hynny wedi eu hadlewyrchu'n amlwg yn ei haraith heddiw.
“Mae wedi bod yn bresenoldeb cyson a dibynadwy dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ysbrydoliaeth i ferched ar draws y byd.
“Diolch Nicola.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter