Mae'r elusen yn ailgartrefu milgwn yng Nghymru.
Cynhaliwyd sesiwn galw heibio gan yr elusen Greyhound Rescue Wales ar risiau’r Senedd heddiw i godi ymwybyddiaeth o les milgwn.
Aeth Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon draw i'r digwyddiad, a noddwyd gan Luke Fletcher AS a Jane Dodds AS. Roedd y sesiwn yn gyfle i Aelodau’r Senedd gwrdd â chyn-filgwn rasio a gafodd eu hachub gan yr elusen Greyhound Rescue Wales.
Mae'r elusen wedi disgrifio'r cŵn fel “cŵn annwyl sy'n gyfeillion gwych”, ac yn ystod y digwyddiad bu gwirfoddolwyr a staff yn trafod y problemau lles sy'n wynebu cŵn o'r fath.
Dechreuodd Greyhound Rescue Wales ar eu gwaith ym 1993 gyda grŵp bach o bobl yn ardal Abertawe.
Mae'r elusen wedi disgrifio eu cenhadaeth fel a ganlyn:
“Pan fyddant yn ymddeol o’u gwaith mae milgwn yn haeddu dyfodol gan eu bod yn gŵn annwyl a sensitif sy’n anifeiliaid anwes gwych i’r teulu.
“Ar ôl eu hachub rydym yn gweithio i’w symud i’n canolfan ailgartrefu neu i gartrefi maeth nes ein bod yn dod o hyd i gartrefi cariadus am byth.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter