AS yn ymweld â chynllun bwyd Cwm-y-glo a Llanrug

Mae Siân Gwenllian AS wedi diolch i’r gwirfoddolwyr am eu “gwaith anhunanol”

Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Arfon wedi ymweld â chynllun rhannu bwyd yng Nghwm-y-glo.

 

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan aelodau o Cyngor Cymuned Llanrug a Chwm-y-Glo a gwirfoddolwyrMae’n rhan o gynllun Fareshare, cynllun sy’n cymryd bwyd dros ben o ansawdd o'r diwydiant bwyd ac yn ei ddosbarthu i grwpiau cymunedol ac elusennau.

 

Mae’r cynllun Fareshare wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cynllun ar waith yn Llanrug a Chwm-y-Glo ers Tachwedd 2020.

 

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli’r ardal yn y Senedd, a dywedodd ei bod “yn fraint cael ymweld â thîm mor weithgar a thosturiol”

 

Mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn cynrychioli Cwm-y-glo ar Gyngor Gwynedd, ac yn rhan o’r cynllun rhannu bwyd. Dywedodd;

 

“Rydym yn ffodus o dderbyn 85kg o fwyd bob dydd Gwener, ac mae’r math o fwyd yn amrywio o wythnos i wythnos. 

 

“Mae’r fan yn dod i Fangor, ac rydym yn mynd draw i gasglu’r bwyd. 

 

“Yno hefyd mae cynllun bwyd Partneriaeth Ogwen a chynlluniau rhannu bwyd Bangor yn cael eu bwyd.

 

“Ar ôl cludo’r bwyd i ysgol Cwm-y-glo yn y bore mae gwirfoddolwyr lleol yn gosod y bwyd ar y byrddau, gan roi’r cigoedd yn yr oergell. 

 

“Yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn mae gwirfoddolwyr y Cyngor Cymuned yn ymgynull i rannu’r bwyd i fagiau ar gyfer teuluoedd, cyplau, ac unigolion. 

 

“Yna mae’r pecynnau’n cael eu dosbarthu i gartrefi lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 o fewn ffiniau’r Cyngor Cymuned.”

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;

 

“Mae sawl cynllun wedi egino ar draws yr etholaeth dros y flwyddyn ddyrys a aeth heibio, ac mae’n arwydd o’r dyletswydd mae pobol leol yn ei deimlo at ei gilydd.

 

“Mewn blwyddyn a fu’n llawn newyddion drwg, mae gwaith y mentrau hyn yn codi calon. 

 

“Dyma bobol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau

 

“Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr hynny am eu gwaith anhunanol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-08 14:10:04 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd