Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams a'r Aelod o'r Senedd Sian Gwenllian wedi ailddatgan eu diolchgarwch i nyrsys lleol sy'n gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn Coronafeirws, gan dalu teyrnged i'r rheini sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac yn gofalu am gleifion ledled cymunedau Arfon.
Wrth siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, dywedodd Mr Williams a Ms Gwenllian fod y pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at y pwysau sydd ar staff rheng flaen y GIG, sy'n peryglu eu bywydau eu hunain ac yn aberthu amser gwerthfawr gyda'u teuluoedd eu hunain i ofalu am bobl eraill.
Hefyd, galwodd Hywel Williams AS unwaith eto am roi dinasyddiaeth Brydeinig i holl weithwyr y GIG sydd ddim yn dod o Brydain ac sy'n brwydro yn erbyn y coronafeirws, gan ddweud mai'r gwir syml yw na allai gwasanaethau megis y GIG weithio heb gyfraniad staff gofal iechyd o lawer o wahanol wledydd.
Mae'r BMA (Cymru) (Cymdeithas Feddygol Prydain) wedi cefnogi ei alwad.
Meddai Hywel Williams AS,
'Mae hwn yn gyfle i fyfyrio ar ymroddiad diflino nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio i ddarparu gofal ledled Arfon drwy gydol y flwyddyn.
'Mae Covid-19 wedi tynnu sylw at y pwysau sydd ar wasanaethau iechyd lleol ac ymroddiad diwyro'r staff rheng flaen, sy'n peryglu eu bywydau eu hunain ac yn aberthu amser gwerthfawr gyda'u teuluoedd eu hunain i ofalu am bobl eraill.'
'O Fangor i Bontnewydd, mae nyrsys ledled Arfon yn gwneud gwaith na fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ei wneud, drwy ofalu am gleifion yn yr ysbyty neu drwy ymweld â phobl wael ac oedrannus yn ein cymunedau.'
'Rwy'n gwybod am nyrsys sydd wedi gorfod gwneud aberthau personol mawr i ddiogelu eu teuluoedd wrth ofalu am gleifion Covid-19, fel treulio wythnosau ar wahân i'w teuluoedd eu hunain mewn llety arall.'
'Rwy’n gobeithio y gwnaiff nyrsys ledled Arfon gymryd amser i fyfyrio ar eu cyfraniad aruthrol, ac i deimlo balchder personol yn y gwahaniaeth y maent yn ei wneud.'
'Hefyd, yn syml, allai ein GIG lleol a'u gwasanaethau cymorth ddim gweithio heb gyfraniad enfawr ac aberth staff gofal iechyd o lawer o wahanol wledydd.'
'Mae miloedd o weithwyr allweddol o'r tu hwnt i Brydain yn gweithio ar y rheng flaen ar hyn o bryd yn y frwydr yn erbyn y feirws angheuol hwn, a llawer ohonynt yn cefnogi ymdrechion arwrol staff GIG Cymru yn Ysbyty Gwynedd.'
'Y lleiaf y maent yn ei haeddu yw tawelwch meddwl i wybod y caiff y bywyd y maent wedi'i adeiladu iddynt eu hunain a'u teuluoedd yn y DU ei ddiogelu, ac yn anad dim, ein bod wir yn gwerthfawrogi eu haberth.'
Meddai Sian Gwenllian AS ,
'Fel cymdeithas, mae gennym ddyled enfawr i gynifer o weithwyr allweddol - o feddygon i athrawon, o weithwyr gofal i fferyllwyr, cynorthwywyr dosbarth a gyrwyr lorïau.'
'Heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, rydym yn canolbwyntio ar y nyrsys a'r cynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio yn ein hysbytai ac yn y gymuned.'
'Hoffwn ychwanegu fy niolch mwyaf gwresog iddynt am eu gwaith sy'n anhygoel o werthfawr bob amser, ond yn enwedig yn ystod yr argyfwng Covid-19 hwn.'
'Maent yn peryglu eu bywydau eu hunain wrth ofalu am bobl eraill. Maent yn haeddu ein parch llwyr, ac rwy'n eu cymeradwyo bob un.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter