Gwleidyddion lleol yn cefnogi plant Ysgol y Faenol wrth iddynt godi arian i deuluoedd Wcrain.
Heddiw (18.03.22) ymunodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Arfon Siân Gwenllian â disgyblion Ysgol y Faenol, Bangor ar y cymal olaf o daith noddedig 1764 milltir o hyd i godi arian ar gyfer plant a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn Wcráin.
Mae disgyblion a staff Ysgol y Faenol, Bangor wedi bod yn cerdded o amgylch iard yr ysgol am bymtheg munud bob dydd er mwyn cerdded y pellter cyfunol o Fangor i brifddinas Wcráin, Kyiv, pellter o 1764 milltir.
Hyd yn hyn maent wedi codi dros £2,500 tuag at Apêl Dyngarol DEC Wcráin y Groes Goch.
Dywedodd Hywel Williams AS:
‘Roeddwn yn falch iawn o ymuno â disgyblion a staff Ysgol y Faenol, Bangor wrth iddynt gwblhau eu taith gerdded anferthol 1764 milltir o amgylch iard yr ysgol – yr un pellter o Fangor i Kyiv, gan godi arian at Apêl DEC Wcráin y Groes Goch.’
'Mae cynigion o gefnogaeth i deuluoedd Wcráin wedi dod i'r amlwg o bob cornel o'm hetholaeth ac roedd yn wych bod yn rhan o'r digwyddiad codi arian heddiw.'
'Mae'r awydd i helpu pobl Wcrain yn amlwg, a diolchaf i blant Ysgol y Faenol am chwarae eu rhan yn yr ymdrech ddyngarol enfawr.'
'Mae llawer iawn o'm hetholwyr wedi gwneud gwaith anhygoel yn rhannu negeseuon o gefnogaeth i ffoaduriaid o'r Wcráin, trefnu digwyddiadau codi arian a chasglu cyflenwadau ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel.'
Ychwanegodd Sian Gwenllian AS:
'Mae'n galonogol gweld pobl ifanc yn arbennig, yn estyn llaw cyfeillgarwch i blant Wcráin, yn cymryd yr awenau, ac yn cyfrannu at yr ymdrech ddyngarol enfawr sydd ar y gweill ar hyn o bryd.'
'Dylid canmol haelioni fy etholwyr yn Arfon wrth gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n ffoi rhag erchyllterau y rhyfel yn Wcráin ac sy'n ceisio diogelwch ar y glannau hyn.'
'Rhaid i ni atgoffa ein hunain yn barhaus o'r realiti a wynebir gan bobl sy'n ffoi rhag sefyllfaoedd annirnadwy o drais ac erledigaeth ac o'r rôl y gallwn ei chwarae trwy gynnig cefnogaeth ddyngarol a chroeso tosturiol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter