Mae ymgyrch i annog mwy o bobl i faethu yng Ngwynedd wedi cael cefnogaeth gan aelodau lleol Plaid Cymru o Seneddau Prydain a Chymru, Hywel Williams, Liz Saville Roberts a Sian Gwenllian.
Yr wythnos yma, mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgyrch i hyrwyddo cyfraniad hanfodol gofalwyr maeth yn ein cymuned.
Mae Hywel Williams AS, Liz Saville Roberts AS a Sian Gwenllian AS yn annog pobl sy'n ystyried maethu i gysylltu â thîm maethu Cyngor Gwynedd.
Meddai Hywel Williams AS, Liz Saville Roberts AS a Sian Gwenllian AS,
'Rydym yn falch iawn o gefnogi Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw maethu, yn enwedig yn y cyfnod anodd iawn hwn.'
'Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl deuluoedd maeth ledled Arfon a Dwyfor Meirionnydd am eu gofal amhrisiadwy.'
'Rydym yn gwybod bod Cyngor Gwynedd yn gweithio'n galed i gefnogi gofalwyr maeth yn y sir, ond mae angen mwy o bobl sy'n meddwl bod ganddynt y sgiliau a'r profiad priodol i ystyried a allent fod yn ofalwyr maeth.'
'Mae plentyndod yn gyfnod rhy fyr i'w wastraffu, a gall gofalwyr maeth helpu pobl sydd heb gael y dechrau gorau i ddechrau mwynhau eu bywydau a thyfu i fod yn bwy bynnag yr hoffent fod.'
'Mae teuluoedd maeth yn rhoi cartref sefydlog, llawn cariad i blant a phobl ifanc - gan roi amgylchedd lle nid yn unig y gallant deimlo'n ddiogel, ond gallant ragori.'
'Felly, byddem yn annog unrhyw un sy'n meddwl y gallent ddarparu cartref llawn cariad i blant sydd ag angen un i ddysgu mwy drwy gysylltu â Thîm Maethu Cyngor Gwynedd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter