Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS wedi croesawu’r newyddion y bydd cwmni gofal iechyd Siemens Healthineers yn creu bron i 100 o swyddi newydd o safon yn Llanberis.
Bydd Siemens, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gofal iechyd a fydd yn diogelu’r 400 o swyddi presennol ac yn creu bron i gant o swyddi newydd o ansawdd uchel. Bydd Siemens Llanberis yn dod yn ganolfan weithgynhyrchu fyd-eang ar gyfer technoleg dadansoddi gwaed y cwmni a chaiff y cynhyrchion a gynhyrchir yno eu defnyddio ar draws y byd i i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol.
Dywedodd Sian Gwenllian AS;
'Mae hyn yn newyddion gwych i'r ardal gyfan, ac i'w groesawu'n fawr yng nghanol yr holl ddiflastod economaidd presennol. Mae gan Lanberis hanes hir o arloeseddedd gan gynnwys yn y diwydiant llechi yn ogystal â phŵer trydan dŵr. Diolch yn fawr i’r Arglwydd Dafydd Wigley, Osborn Jones ac eraill a fu’n rhan o’r weledigaeth hon a ddaeth â ffatri Siemens i Lanberis dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Mae'n wych gwybod bod cynhyrchion a gynhyrchir ar safle Llanberis yn cael eu defnyddio ar draws y byd i helpu i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol. Mae'r gweithlu lleol yn gwbl falch o chwarae rhan enfawr wrth helpu eraill ym mhob rhan o'r byd trwy eu gwaith beunyddiol. Llongyfarchiadau gwresog iddynt, i’r cwmni, i Lywodraeth Cymru ac i bawb fu’n rhan o’r datblygiad diweddaraf cyffrous hwn sy’n golygu bod safle Llanberis yn ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod.
Ychwanegodd Hywel Williams AS;
'Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i Siemens ac yn nodi buddsoddiad sylweddol arall gan y cwmni yn yr economi leol, gan ddod â thua chant o swyddi medrus i'r ardal - buddsoddi a chreu cyflogaeth ar adeg pan mae ein heconomi yn mynnu cefnogaeth.'
'Llongyfarchiadau i Siemens ar eu llwyddiant wrth wireddu eu cynlluniau. Mae'n glod i ansawdd eu gwaith fod galw mawr am eu cynnyrch.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter