Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Siân Gwenllian wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru a Rheolwr Gyfarwyddwr Northwood Hygiene, wrth i'r cwmni gynllunio i gau eu safle gweithgynhyrchu ym Mhenygroes gan arwain at golli naw deg pedwar o swyddi lleol.
Mewn llythyr at Reolwr Gyfarwyddwr Northwood Hygiene Peter Foy, dywed Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS eu bod yn siomedig iawn ynglŷn â’r bwriad i gau’r ffatri er gwaethaf ‘lefelau archeb digynsail’ a staff yn gweithio oriau hir i fodloni galw cynyddol.
Mae’r cynrychiolwyr lleol Plaid Cymru hefyd wedi ysgrifennu at Weinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, i ddarganfod pa gamau ymarferol y bydd yn ei gymryd i gefnogi'r gweithlu lleol yn y sefyllfa gynyddol ansicr hon.
Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS,
'Rydym yn siomedig iawn o glywed y newyddion bod y safle gweithgynhyrchu hirsefydlog ym Mhenygroes ar fin cau, gan arwain at golli naw deg pedwar o swyddi lleol.'
'Mae'r cwmni wedi gwreiddio ei hun yn y gymuned leol ers blynyddoedd, felly mae'r newyddion hyn yn ergyd economaidd enfawr ar adeg pan na allwn fforddio colli swyddi.'
'Bydd yn anodd dod o hyd i waith newydd a bydd dros naw deg o deuluoedd lleol yn wynebu gostyngiad yn eu hincwm.'
'Mae gwefan y cwmni'n dweud eu bod yn ‘fusnes ffyniannus', felly mae'r newyddion hyn yn sioc i'r ardal.'
'Rydym hefyd yn gwybod bod y ffatri'n brysur iawn ar ddechrau'r cyfnod argyfwng yma gyda lefelau archeb digynsail a staff ar safle Penygroes yn gweithio oriau hir i fodloni'r galw.'
'Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd deall pam felly fod penderfyniad mor bellgyrhaeddol ac emosiynol a hyn wedi'i wneud ar adeg mor ansicr a phan mae'r darlun economaidd yn parhau i fod yn aneglur.'
'Mae'n ddyletswydd ar Northwood Hygiene i esbonio'r rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad hwn. Rhaid gwneud pob ymdrech i amddiffyn y gweithlu medrus ym Mhenygroes, pan fo rhai ohonynt wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'r cwmni.’
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter