Mae Aelod o'r Senedd ac Aelod Senedol Arfon wedi ysgrifennu at Lee Waters AS, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth i Gymru ynghylch trenau gorlawn a'r risg i iechyd y cyhoedd.
Mewn datganiad, dywedodd Siân Gwenllian AS;
"Derbyniais a Hywel Williams AS y llun hwn (uchod) gan etholwr pryderus ar y trên 12:15 o'r Amwythig i Gaergybi."
Dywed y llythyr;
Unwaith eto, rydym wedi derbyn adroddiadau gan etholwr ynghylch trenau gorlawn sy'n golygu bod cadw at y rheolau Covid-19 yn amhosibl.
Mae pryderon difrifol ynghylch cerbydau trên fel llefydd delfrydol i ledaenu Covid-19 gan nad yw staff yn rheoli nifer y teithwyr, nid yw'r rheolau ar gyfer pellhau corfforol ac ar gyfer gwisgo gorchuddion wyneb yn cael eu gorfodi ac mae'n ymddangos bod Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran delio gyda hyn ac yn hytrach yn trosglwyddo cyfrifoldeb i deithwyr trwy ddweud 'peidiwch â mynd ar y trên os yw'n llawn'.
Mae'r adroddiad diweddaraf a dderbyniwyd yn ymwneud â thaith ar y trên 12:15 o'r Amwythig i Gaergybi ar ddydd Llun 28ain Mehefin a hoffwn adrodd yr hanes ichi isod fel y gallwch ddeall yn well beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd ledled Cymru:
“Dylai'r gwasanaeth 11.06 o Birmingham International i Gaergybi fod wedi bod yn bedwar cerbyd ond dim ond dau oedd ganddo, a ddaeth y gwasanaeth hwn i ben yn Amwythig. Erbyn i'r trên gyrraedd Telford (yr orsaf cyn Amwythig) roedd pob sedd wedi'i chymryd ac roedd pobl yn sefyll wrth y raciau bagiau ac yn y cynteddau wrth y toiledau.
Yn Amwythig, roedd trên dau gerbyd arall yn aros i fynd i Gaergybi ac roedd teithwyr eisoes yn sefyll ar hwn gan nad oedd seddi ar gael. Ymunodd hyd yn oed mwy o deithwyr yn Wrecsam a Chaer. Nid oedd unrhyw obaith o gwbl o bellhau cymdeithasol a byddai'n amhosibl i Drafnidiaeth Cymru gweithredu unrhyw fath o olrhain cysylltiadau pe byddai rhywun ar y trên hwnnw wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae'n hollol warthus!
Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod angen tocyn dilys ac archeb sedd, ond nid yw’r wefan yn gadael ichi archebu sedd ar gyfer y siwrnai gyfan ac roedd yn rhaid i mi rannu’r daith yn ddwy wrth archebu. Nid oedd unrhyw un yn gwirio a oedd gan deithwyr archeb sedd.
Credaf fod Trafnidiaeth Cymru yn dweud y dylai teithwyr dod i farn eu hunain a pheidio â mynd ar y trên os ydyn nhw'n credu ei fod yn orlawn, ond yn Birmingham International dim ond llond llaw o deithwyr oedd yn fy ngherbyd, gan gynnwys sawl person oedrannus a oedd wedi dewis y gwasanaeth hwnnw oherwydd eu bod yn credu ei fod yn wasanaeth syth drwodd heb unrhyw newid. Unwaith yr ydych ar y trên ar gyfer taith mor hir, nid yw’n opsiwn realistig i adael y trên - byddem wedi bod yn sownd yn Amwythig o dan resymeg Trafnidiaeth Cymru!”
Mae'r sefyllfa hon yn digwydd yn llawer rhy aml ac mae'n frawychus bod Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn berffaith iawn i Drafnidiaeth Cymru anwybyddu rheolau Covid-19 sydd i fod yno i warchod ni i gyd. Byddwn yn dychmygu y byddai unrhyw fusnes arall sydd yn torri'r gyfraith wedi bod yn destun cosbau erbyn hyn.
Mae angen iddo stopio a rhaid dod o hyd i ateb ar frys er mwyn diogelu teithwyr, staff y trenau a'r cyhoedd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter