Dyma’r ail flwyddyn i Plaid Cymru Arfon gynnal ymgyrch y Calendr Adfent Tu Chwith, sef cynllun sy’n annog pobl i roi i’r anghennus bob dydd yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Y syniad ydi bod pobl yn rhoi un eitem o fwyd mewn bocs bob dydd yn ystod yr adfent, ac yna yn ei gyflwyno i’w banc bwyd lleol cyn y Nadolig. Er mwyn hwyluso hynny mae Plaid Cymru Arfon wedi gwneud eu swyddfa nhw yn fan casglu i bobl ddod a’u nwyddau, ac mae aelodau a chynghorwyr y Blaid yn Arfon wedi bod yn casglu o gartrefi hefyd. Cyflwynwyd yr holl nwyddau i fanciau bwyd Caernarfon a Bangor ar y dydd Gwener cyn y Nadolig gan Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS.
Meddai Sian Gwenllian: “Mae pobol Arfon wedi ymateb yn wych unwaith eto i’n hymgyrch ni ym Mhlaid Cymru Arfon i sicrhau nad yw’r banciau bwyd yn mynd yn brin o nwyddau y Nadolig yma, ac fe rannwyd 200kg o fwyd rhwng y ddau banc bwyd sy’n lleol i ni. Mae banciau bwyd Caernarfon a Bangor yn brysur drwy’r flwyddyn wrth gwrs, ond mae teuluoedd ar incwm isel yn ei chanfod hi’n arbennig o anodd i ddal dau ben llinyn ynghyd yr adeg yma o’r flwyddyn, gan bod disgwyl iddyn nhw dalu am bethau ychwanegol. Mae’r tywydd oer yn amlwg yn ffactor hefyd a nifer fawr o bobol yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyd. Mae’n sefyllfa dorcalonnus a bod yn hollol onest.”
Mae’r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu’n flynyddol, a nifer fawr o deuluoedd sydd mewn gwaith yn gorfod eu defnyddio. Cyflogau isel a chytundebau sero awr sydd yn gyfrifol yn aml iawn gyda phobl angen bwyd i’w cynnal tan bod y cyflog nesaf yn cyrraedd. Yn ol y Trussel Trust fe roddwyd 208,956 o barseli bwyd i blant rhwng Ebrill a Medi eleni. Dywedodd Gwyn Williams o Fanc Bwyd Caernarfon:
“Rydym yn gweld cynydd bob blwyddyn yn y bobol sydd angen defnyddio’r banc bwyd, a ‘dan ni’n lwcus bod haelioni pobol yn cynyddu efo’r angen. Oedi mewn budd-daliadau ydi un o’r achosion mwyaf cyffredin sy’n dod a phobol atom ni, ac mae dros 50% o’r bobol rydym ni’n eu bwydo yn dod yma oherwydd sanctiynnau ar eu budd-dal neu oherwydd newid mewn amgylchiadau lle maen nhw’n gallu bod heb fudd-dal am bump i chwe wythnos mewn rhai achosion.”
Meddai Hywel Williams: “Mae’n sefyllfa drist iawn bod angen banciau bwyd o gwbwl ac maen nhw wedi dod yn ‘norm’ erbyn hyn, sydd yn dweud llawer am yr anghyfartaledd dybryd sydd yn ein cymdeithas. Fyddwn i ddim yn dymuno dychmygu beth fyddai hanes pobol anghennus ein cymunedau heb y ddarpariaeth yma a dwi’n diolch o waelod calon i’r rhai sydd wedi rhoi mor hael eto eleni, ac i wirfoddolwyr y banciau bwyd yng Nghaernarfon a Bangor.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter