ASau PLAID YN LLEISIO PRYDER AM YR EFFAITH AR GLEIFION A THEITHWYR.
Mae Aelod Senedd Cymru dros Arfon Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi beirniadu cynlluniau i dorri ar wasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng gogledd orllewin Cymru a Maes Awyr Manceinion.
Gallai cynigion a gyflwynwyd gan Dasglu Adferiad Manceinion (MRTF), hefyd fod â goblygiadau i gleifion y galon a'u teuluoedd sy'n teithio ar y trên o ogledd Cymru i Ganolfan y Galon Manceinion, gan fod bwriad o gael gwared ar wasanaethau o Orsaf Oxford Road, sy'n gwasanaethu'r ysbyty.
Yn gwrthwynebu'r cynlluniau, dywedodd yr AS Siân Gwenllian a'r AS Hywel Williams:
‘Mae’n hanfodol cynnal y cyswllt rheilffordd uniongyrchol hwn o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion.’
‘Mae’r cyswllt hwn ymhell o fod yn berffaith ar hyn o bryd ond byddai torri’r cysylltiad rheilffordd yn ergyd drom i economi gogledd Cymru.'
'Byddai hefyd yn achosi anghyfleustra enfawr i deuluoedd sy'n teithio o Fangor i Faes Awyr Manceinion ar gyfer teithio ar wyliau ac yn faich diangen i gleifion calon gogledd Cymru a'u teuluoedd sy'n teithio ar y trên i Ganolfan y Galon Manceinion.'
‘Byddai hefyd yn achosi twf uniongyrchol mewn traffig ceir o ogledd Cymru i mewn i ardal Manceinion wrth i bobl gefnu ar y trên, rhywbeth na ddylai neb fod ei eisiau.’
'Efallai fod y dewisiadau eraill a gynigir (ar wahân i gynnal y cyswllt) yn gweddu i ddiddordebau arbennig rhai pobl ym Manceinion ond byddai hyn yn enghraifft arall eto o ddewisiadau pobl eraill yn cael eu blaenoriaethu ar draul pobl gogledd Cymru heb unrhyw fai arnom ni.’
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter