Bethel a'r Felinheli
Yn 2022, crewyd ward newydd Bethel a'r Felinheli drwy uno dau bentref Bethel a'r Felinheli i greu un ward dau gynghorydd yn Etholiadau Cyngor Gwynedd.
Etholwyd Sasha Williams o Fethel ac Iwan Huws o'r Felinheli dros Blaid Cymru.
Mwy am Sasha:
- Wedi bod yn gyfrifol am gynnal Clwb Ti a Fi Bethel.
- Cyn-ysgrifenyddes a Chadeirydd Cylch Meithrin Bethel.
- Llywodraethwr Ysgol Gynradd Bethel.
- Aelod o gyngor Plwyf Llanddeiniolen.
- Ysgrifennydd Dawns i Eisteddfod Bethel.
- Trysorydd i glwb Pêl-droed Bethel.
Mwy am Iwan:
- Cadeirydd Cyngor Cymuned Y Felinheli.
- Hogyn o'r Felinheli.
- Dealltwriaeth dda o Lywodraeth Leol.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter