ASau LLEOL YN HELPU I GODI YMWYBYDDIAETH O IECHYD MEDDWL MEWN CYMUNEDAU GWLEDIG.
Ymunodd AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams ac AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts â chyd-westeion yng Nghanolfan y Fron (Dydd Sadwrn 21.01.23) i gychwyn wythnos o frecwastau ffermdy i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Ymunodd Mr Williams a Mrs Saville Roberts â’r gwesteiwyr, y Cynghorydd Arwyn Roberts a Nia Williams yn y cyntaf o ddeg brecwast ffermdy ar draws Gwynedd a drefnwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) i gefnogi elusennau lleol a hyrwyddo y gorau o gynnyrch Cymreig a gynhyrchir gan ffermwyr lleol.
Bydd elw o’r digwyddiad wythnos o hyd, sydd wedi’i gynnal yn flynyddol ers 2010, yn cael ei rannu rhwng yr elusen iechyd meddwl wledig Gymreig, Sefydliad DPJ, Canolfan y Fron, a Chronfa Coron Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023.
Mae’r wythnos frecwastau hefyd yn rhoi cyfle i hyrwyddo cynnyrch lleol o safon uchel y mae ffermwyr lleol yn ei dyfu ac yn amlygu pwysigrwydd yr economi wledig.
Dywedodd Hywel Williams AS:
'Diolch i'r Cynghorydd Arwyn Roberts a Nia Williams am gynnal y digwyddiad hwn yng Nghanolfan y Fron, ac i'r FUW am sicrhau bod y dathliad blynyddol hwn o'r gorau o gynnyrch lleol bellach yn rhan o'r calendr amaethyddol lleol.'
‘Mae’r digwyddiad blynyddol hwn wedi magu enw da am godi arian at achosion da, ac rwy’n falch o weld yr elusen iechyd meddwl wledig, Sefydliad DPJ yn un o’r rhai sy’n elwa eleni, ochr yn ochr ag Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.’
'Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sy'n gallu mynychu un o'r brecwastau hyn, yn cefnogi ein ffermwyr lleol ac yn helpu i godi arian at achosion haeddiannol o'r fath.'
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
'Roeddwn wrth fy modd yn mynychu'r brecwast fferm yng Nghanolfan y Fron ac estynaf fy niolch i'r gwesteiwyr lleol, Arwyn Roberts a Nia Williams am eu haelioni a'u croeso cynnes.'
'Mae'r digwyddiad blynyddol hwn, a drefnir gan UAC, wedi dod yn rhan annatod o'r calendr amaethyddol lleol – gan arddangos y gorau mewn cynnyrch lleol a chodi arian at achosion gwerth chweil.'
'Mae hefyd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan y gymuned ffermio leol am rai o'r heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant, gan roi gwybod i ni fel cynrychiolwyr etholedig o’r materion i'w codi gyda'r llywodraeth.'
'Roeddwn yn falch o weld Canolfan y Fron yn cael ei defnyddio i gynnal y digwyddiad cymdeithasol pwysig hwn - mae'r ganolfan hon yn gaffaeliad i'r gymuned leol, yn gwasanaethu poblogaeth wasgaredig, wledig ac yn dod â phobl ynghyd o dan yr un to.'
‘Mae hefyd yn galonogol gweld ymrwymiad parhaus UAC i gefnogi iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig gyda’r elw o’r digwyddiad yn mynd i Sefydliad DPJ, tra hefyd yn cefnogi Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd eleni.’
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter