Mae Brooke Graham, o Faesgeirchen, Bangor, wedi ymddangos yn Oriel Hyrwyddwyr Ar-lein y Senedd eleni ar ôl cael ei henwebu gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Siân Gwenllian.
Ar ddechrau pandemig Covid-19, dechreuodd Brooke Graham, 13, werthu cacennau, gan godi £175 ar gyfer elusen Awyr Las y GIG.
Aeth ymlaen i bobi dros 100 o gacennau ar gyfer pensiynwyr Maesgeirchen fel rhan o’r cynllun bwyd yn yr ardal.
Cyflwynodd y Cynghorydd Nigel Pickavance lythyr diolch i Brooke gan Siân Gwenllian AS yn ogystal ag anrheg ar ran y tîm rhannu bwyd.
Mae Tweet fel rhan o ddathliadau Oriel y Pencampwyr yn dweud;
“Mae Brooke sy’n 13 oed wedi bod yn gwneud a gwerthu cacenni caws a chacenni sbwng traddodiadol yn ei chymuned ym Maesgeirchen, Bangor.
Mae’n codi arian ar gyfer prynu hanfodion i’r GIG.”
Mae Siân Gwenllian AS wedi ymateb;
“Roeddwn yn falch iawn o gael enwebu Brooke!
Mae pobl fel Brooke wedi bod yn llygedyn o obaith mewn cyfnod tywyll iawn.
Mae gan bob un ohonom ddyletswydd o ofal tuag at ein gilydd, ac mae Brooke wedi bod yn enghraifft wych o’r ddyletswydd honno.
Gwn fod Maesgeirchen yn gymuned glos a fydd wedi gwerthfawrogi gwaith Brooke yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Brooke, a phawb arall ym Maesgeirchen, Bangor, a thu hwnt sydd wedi camu i’r adwy ac wedi cefnogi ein cymunedau mewn cyfnod heriol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter