ASau Arfon yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i weithwyr llawrydd a hyfforddwyr hunangyflogedig.
Mae Aelod Plaid Cymru o Senedd San Steffan dros Arfon Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Siân Gwenllian wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn annog llywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored hunangyflogedig, llawrydd a chwmnïau bach yn Eryri. ynghylch a phryd y gall eu gwasanaethau ail-ddechrau.
Mae nifer o etholwyr sy'n gweithio yn y sector awyr agored lleol wedi cysylltu â Mr Williams a Ms Gwenllian, yn bryderus iawn ynghylch diffyg cefnogaeth penodol ar gyfer y rheini sy'n disgyn y tu allan i feini prawf cymhwysedd cynlluniau cymorth llywodraeth y DU a Chymru.
Nid oes gan lawer o'r busnesau a'r gweithwyr hyn adeiladau sefydlog ac nid ydynt ar gynlluniau TWE ac felly maent wedi'u heithrio o gymorth ariannol. Mae llawer hefyd wedi'u heithrio rhag hawlio Credyd Cynhwysol gan fod ganddynt bartneriaid sy'n ennill incwm.
Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS,
'Gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a thraethau yn ailagor ac ymwelwyr yn cael eu croesawu yn ôl i Gymru, ymddengys nad oes llawer o ganllawiau ynghylch pryd all elfennau penodol o’r sector gweithgareddau awyr agored ail gychwyn gwasanaethau.'
'Yn benodol, mae tywyswyr/ hyfforddwyr dringo a cherdded, busnesau awyr agored, canolfannau gweithgareddau awyr agored ynghyd a chymdeithasau cerdded, sy’n cynnal nifer o swyddi ar draws Eryri yn dal i aros am amserlen glir o phryd y bydd yn ddiogel i ail ddechrau eu gwasanaethau.'
'Mae llawer o'r busnesau hyn, gan gynnwys gweithwyr llawrydd a hunangyflogedig, wedi methu â chael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael gan lywodraethau'r DU a Chymru gan eu bod y tu allan i'r meini prawf cymhwysedd.'
'Mae llawer yn ei chael hi'n anodd byw ar incwm sydd wedi gostwng yn sylweddol a dim sicrwydd pryd y gallant ddychwelyd i'r gwaith. Mae yna bryder na fydd y busnesau bach hyn byth yn gallu adfer o effaith ariannol Covid-19 '
'Tra bod y mwyafrif yn gefnogol i'r angen i flaenoriaethu iechyd ein cymunedau lleol, ni allant ddeall pam fod rhai busnesau twristiaeth yn cael ailagor ond nid eu sector nhw.'
'Hyderwn y gall y Prif Weinidog roi rhywfaint o sicrwydd i'r busnesau a'r unigolion hyn sy’n ddibynnol ar wybod pryd y gallant ddychwelyd i'r gwaith.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter