Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.
A’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian AS yn cynnal cymhorthfa yng Nghwm-y-glo yng nghwmni'r Cynghorydd Sir Berwyn Parry Jones.
Mae trigolion Cwm-y-glo a'r dalgylch yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.
Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 01286 672076.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter