Mae Barbara Bus Gwynedd wedi agor lleoliad newydd yng Nghartref Ceris Newydd yn Nhreborth ger Bangor gan gynnig gwasanaeth gwerthfawr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn nad ydynt yn gallu defnyddion trafnidiaeth gyhoeddus a sydd heb unrhyw fodd arall o fynd a dod.
Bu Siân Gwenllian AC yn bresennol yn lansiad y gwasanaeth newydd i Arfon yr wythnos ddiwethaf gan groesawu’r ddarpariaeth wych yma a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl.
“Mae pobol hŷn a phobol o bob oed sydd â phroblemau symudedd yn gallu mynd yn unig iawn pan maen nhw’n canfod eu hunain yn methu a gwneud yr hyn mae’r gweddill ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae rhywbeth mor syml â thrip i’r dref neu i gaffi yn gallu bod yn amhosib i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn sydd heb eu cludiant eu hunain, felly mi fydd gallu bwcio’r Barbara Bus am ddiwrnod allan yn gwneud gymaint o wahaniaeth.”
Ers dechrau cangen Gwynedd o Barbara Bus naw mlynedd yn ôl, mae’r elusen wedi bod yn rhoddi cymorth i bobl na fyddai wedi gallu mynd yma ac acw heb drafferthion mawr. Mae Barbara Bus yn caniatáu i gyfeillion, teulu neu ofalwyr fenthyg cerbyd wedi addasu i anghenion defnyddwyr cadair olwyn am ddiwrnod, benwythnos neu am gyfnod hirach, gan roi’r cyfle i bobol fynychu digwyddiadau cymdeithasol, gyrraedd apwyntiadau meddygol neu hyd yn oed fynd ar eu gwyliau yn gyfforddus ac am bris rhesymol.
Enwyd elusen Barbara Bus ar ôl geneth ifanc o’r enw Barbara Werndly a gafodd ei pharlysu gan y clefyd Polio yn un-ar-bymtheg oed ac a dreuliodd ei bywyd i gyd fel oedolyn yn gaeth i wely ysbyty. Dechreuodd Barbara yr elusen yn 1968 yn Ysbyty Orthopedig Middlesex hanner can mlynedd yn ôl pan gafodd ei hysbrydoli gan anrheg o hen fan a oedd yn galluogi iddi fynd allan yn y cerbyd efo’i ffrindiau yn gyrru.
Meddai Siân Gwenllian:
“Mae stori anhygoel Barbara yn un o gryfder mawr ac awydd i wella ansawdd bywyd pobol gydag anableddau. Fe welodd hi gyfle ac fe gydiodd hi ynddo fo gyda’i dwy law sydd yn dipyn o beth i ferch mor ifanc. Rydw i’n rhagweld y bydd Barbara Bus yn adnodd hollbwysig i nifer o deuluoedd yr ardal hon, ac rydw i wrth fy modd mai Treborth sydd wedi ei ddewis yn leoliad iddo. Y cwbwl sydd raid i deuluoedd ei wneud ydi cysylltu â’r elusen, gwirio argaeledd y tri bws sydd ar y safle, a bwcio’u dyddiad.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter