Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon, MS Siân Gwenllian, yn siomedig o glywed bod bwriad i gau meddygfa Glanfa yn ardal Hirael ym Mangor ym mis Hydref. Mae’n gwahodd etholwyr i gysylltu â hi gyda'u pryderon am y cyhoeddiad er mwyn iddi allu eu cyfleu i'r Bwrdd Iechyd.
Neithiwr fe’i hysbyswyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd y partneriaid ym Meddygfa Glanfa, Bangor yn dod â’u Contract GMS i ben ar 31 Hydref 2020.
Dywedwyd wrthi fod gan y Bwrdd Iechyd gynllun ar waith i wasgaru eu cleifion i feddygfeydd lleol eraill, a bod llythyr yn cael ei anfon gan y Bwrdd Iechyd at bob claf sydd wedi'i gofrestru â Meddygfa Glanfa.
“Mae’r newyddion yn siom, ac rwyf eisoes yn cael ar ddeall y bydd hyn yn achosi anawsterau i drigolion Bangor, yn arbennig yn ardaloedd Hirael a Maesgeirchen yn y ddinas, ac yn enwedig i drigolion hŷn y cymunedau hynny. Byddaf yn gweithio gyda'r cynghorwyr lleol a'r preswylwyr i sicrhau bod y safbwyntiau hynny'n cael eu clywed."
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter