Mae’r prosiectau gwirfoddol wedi cael eu canmol gan ASau lleol yn ystod ymweliadau cymunedol.
Mae disgwl i’r cymorth, dan arweiniad y gymuned, sydd wedi darparu bwyd a chyflenwadau hanfodol i'r henoed a'r bregus ledled Arfon yn ystod y cyfnod cloi barhau, a hynny er gwaethaf y ffaith fod argymhelliant y llywodraeth ar hunan-ynysu yn dod i ben yn swyddogol yr wythnos hon.
Mae’r newyddion hwn wedi cael ei groesawu gan ASau Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams a Siân Gwenllian. Ymwelodd y ddau â dwy o'r mentrau lleol, ond maent yn ymwybodol o gynlluniau tebyg eraill sy'n gwasanaethu cymunedau eraill yn Arfon. Dim ond dau ymhlith nifer o brosiectau cymunedol sy'n cael eu cymeradwyo gan y gwleidyddion yw cynllun Bwyd i Bawb Plaid Bangor, a Porthi Pawb yng Nghaernarfon.
Mae cynllun Bwyd i Bawb, Plaid Cymru Bangor wedi bod yn dosbarthu bwyd deirgwaith yr wythnos o swyddfa etholaeth Plaid Cymru ar y stryd fawr, a’r priosect wedi'i gydlynu gan y Cynghorydd lleol Steve Collings.
Mae Porthi Pawb wedi bod yn cefnogi pobl yng Nghaernarfon drwy ddanfon prydau poeth i’w tai, ac yn ddiweddar mae’r cynllun wedi ei ehangu i ddarparu prydau bwyd am ddim i blant yn ystod y gwyliau.
Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS,
‘Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd y mentrau bwyd cymunedol hyn yn parhau gyda’u gwaith gwych y tu hwnt i ddiwedd swyddogol y cyfnod hunan-ynysu. '
'Er gwaethaf y ffaith fod y cyfnod cloi yn llacio, mae llawer o bobl yn parhau i fod yn bryderus ynghylch mentro allan i fannau cyhoeddus fel archfarchnadoedd, felly bydd parhau i dderbyn prydau a pharseli bwyd i’w drws yn rhoi’r sicrwydd iddynt.'
‘Mae’r cynlluniau hyn wedi bod yn achubiaeth i lawer o’n hetholwyr mwyaf bregus, i’r rhai sydd wedi bod yn hunan-ynysu am resymau iechyd, yn ogystal â’r rhai a wynebai drafferthion ariannol oherwydd y pandemig.’
‘Yr hyn sy’n gyffredin rhwng y cynlluniau hyn yw’r awydd i helpu pobl, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus, yn fregus, neu sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod caled hwn.’
'Mae'r mentrau cymunedol hyn wedi codi ar draws yr etholaeth fel ymateb tosturiol a gofalgar i'r pandemig, ac mae wedi codi calon i weld pobl leol yn tynnu at ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.'
‘Ar ôl gweld drosom ein hunain y gwaith sydd ynghlwm â sefydlu a chydlynu’r cynlluniau hyn, nid yw ond yn briodol bod y rhai sy’n parhau i roi o’u hamser i helpu eu cymunedau yn cael eu canmol yn gyhoeddus am wneud hynny.’
Dywedodd Chris Summers, Cydlynydd a Chogydd gyda Porthi Pawb,
‘Rwyf mor falch fod Porthi Pawb wedi sicrhau cyllid ychwanegol i’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth o ddrws i ddrws i bobl Caernarfon, gan gynnwys prydau bwyd i blant dros y gwyliau.’
‘Mae’r gefnogaeth a gawsom ers sefydlu’r cynllun wedi bod yn rhyfeddol. Hoffwn ddiolch i’r holl grwpiau, sefydliadau ac unigolion lleol hynny sydd wedi ein cefnogi, heb sôn am ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, na fyddai’r cynllun wedi bod yn bosibl oni bai amdanynt.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter