‘Unwaith eto mae myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol yn cael eu gwneud i deimlo fel Cinderellas system addysg Cymru.’
Wrth ymateb i’r newyddion nad oedd y bwrdd arholi Pearson am ryddhau canlyniadau BTEC yn sgil penderfyniad i ailraddio, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS,
“Mae’r newyddion nad yw bwrdd arholi Pearson am ryddhau canlyniadau BTEC yn sgil penderfyniad i ailraddio am gael sgil-effaith ddifrifol ar filoedd o ddisgyblion ledled Cymru, ac mae llawer yn parhau yn y niwl ynglŷn â’u dyfodol. Mae pobl ifanc wedi cael eu siomi unwaith yn rhagor, ac yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.
“Bydd miloedd o fyfyrwyr BTec eisoes wedi derbyn eu graddau yr wythnos ddiwethaf, gyda’r gweddill yn eu disgwyl y bore hwn. Nawr mae rhagor o aros, mwy o ansicrwydd ac unwaith eto mae myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau BTec yn cael eu trin yn eilradd.
“Mae angen i Pearson gyhoeddi PRYD y bydd y graddau ar gael. Mae’n bosibl y bydd rhai myfyrwyr BTec Lefel-3 bellach yn gallu cael mynediad i gyrsiau prifysgol wedi'r cyfan, ond byddant yn colli allan oherwydd bydd y lleoedd wedi cael eu rhoi i fyfyrwyr Safon Uwch sydd eisoes yn gwybod eu graddau.
“Mae angen holi pam y cymerodd gymaint o amser i Pearson sylweddoli goblygiadau newidiadau graddau TGAU a Lefel A ar gymwysterau BTec a pha drafodaethau, os y cafwyd rhai o gwbl, oedd yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Pearson dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter