Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams a'r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi mynegi pryderon difrifol am ddyfodol gwasanaethau fasgiwlar brys a chleifion mewnol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a'r effaith y gallai israddio'r gwasanaeth gael ar ddarpariaethau iechyd eraill yn yr ysbyty.
Mae eu galwadau wedi eu hategu gan Ken Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Cleifion Arennau Gwynedd a Môn.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer theatr newydd gwerth £2.76 miliwn yn Ysbyty Glan Clwyd, wrth i'r bwrdd iechyd symud i ganoli gwasanaethau fasgiwlar ar draws gogledd Cymru.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Mae gwasanaethau fasgiwlar yn rhan allweddol o'r gofal a ddarperir yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac maent yn cynnwys llawdriniaeth ar gyfer pobl sydd â haint sy'n bygwth bywyd, llawfeddygaeth gwddf ar gyfer atal strôc a llawfeddygaeth i achub rhannau o’r corff lle mae'r cyflenwad gwaed dan fygythiad. '
‘Mae uned fasgiwlar Bangor wedi datblygu enw da yn lleol ond hefyd yn ryngwladol ar gyfer rhagoriaeth ei ganlyniadau. Mae bygythiad i israddio'r gwasanaethau hyn yn tanseilio ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i bobl Gogledd Orllewin Cymru.’
'Ond dyma ni unwaith eto, wedi ymladd yn llwyddiannus yn erbyn cynlluniau i israddio Gwasanaeth Mamolaeth Ysbyty Gwynedd a mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gyrru cynlluniau i ganoli gwasanaethau allweddol i ffwrdd o'n cymunedau.'
'Mae cychwyn o'r newydd ar safle ar wahân yn llawn problemau yn yr hinsawdd bresennol o broblemau recriwtio ac anawsterau denu staff o safon uchel i'r gogledd. Mae'r gwasanaeth ansawdd uchel presennol yn elwa poblogaeth gyfan Gogledd Cymru ac mae posibilrwydd gwirioneddol iawn y gallai gael ei golli yn llwyr. '
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
'Mae'r tîm fasgiwlar ym Mangor wedi'i sefydlu'n dda ac fe'i cydnabyddir fel y gorau yng Nghymru ar gyfer gwaith ffistwla a thrin cleifion dialysis yr arennau ac ymhlith y gorau yn y byd i atal trychiadau, yn arbennig o berthnasol i'r rhai â diabetes.'
'Byddai unrhyw ymgais i gael gwared ar wasanaethau o Ysbyty Gwynedd yn rhoi bywydau'r rhai sy'n byw mewn cymunedau mwy anghysbell a lleoliadau daearyddol anodd mewn perygl diangen.'
'Mae hyd yn oed y Gymdeithas Fasgiwlar (yr ymgynghorwyr sydd wedi argymell canoli gwasanaethau) yn cydnabod y gallai fod angen ymagwedd wahanol i ardaloedd gwledig fel gogledd Cymru oherwydd y pellteroedd hir y byddai angen i gleifion a staff eu teithio'.
'Rhaid cadw statws Ysbyty Gwynedd a gwrthsefyll unrhyw ymdrechion i symud ein gwasanaethau craidd i'r dwyrain.'
Ychwanegodd Ken Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Cleifion Arennau Gwynedd a Môn,
'Pe bai pob argyfwng fasgiwlar megis clâf yn gwaedu i farwolaeth o ganlyniad i anaf neu aflonyddwch ar yr ymenydd yn cael eu derbyn i Glan Clwyd, yna mae risg wirioneddol i fywyd oherwydd pellteroedd teithio hirach i bobl Gwynedd ac Ynys Môn.’
‘Ansawdd a diogelwch yw conglfeini darpariaeth gofal iechyd, a byddai'r ddau yn cael eu peryglu wrth gael gwared â gwasanaethau argyfwng fasgiwlar a cleifion mewnol o Ysbyty Gwynedd.'
Mae deiseb ar-lein sy'n galw am gadw gwasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd eisoes wedi derbyn dros 3,000 o lofnodion.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter