Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi cynnal cyfarfod brys gyda Chyngor Gwynedd er mwyn lleisio pryderon etholwyr ynghylch newidiadau i amserlen gwasanaethau bysiau lleol.
Mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr sy’n pryderu ynghylch y newidiadau sydd wedi arwain at leihad sylweddol yng ngwasanaethau bysiau mewn rhai cymunedau yn Arfon.
Codwyd pryderon penodol am wasanaethau yn Nyffryn Nantlle, Carmel, Fron, Penisarwaun, Deiniolen, Nebo, Groeslon a rhannau o Gaernarfon.
Sicrhawyd Hywel Williams a Siân Gwenllian bod y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i gynllunio ateb cynaliadwy tymor hir i’r broblem.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC,
'Dros yr wythnos ddiwethaf, mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â ni yn pryderu am newidiadau diweddar i'r amserlen bysiau lleol.'
'Yn sgil y pryderon hyn, fe wnaethom gyfarfod â Chyngor Gwynedd i drosglwyddo'r pryderon penodol sydd wedi codi yn dilyn cwtogi gwasanaethau penodol yn Arfon, gwasanaethau y mae llawer yn ddibynnol arnynt.’
'Mae'r sefyllfa wedi codi oherwydd bod un o brif ddarparwyr bysiau lleol wedi colli eu trwydded gweithredu. Er gwaethaf ymdrechion gan y Cyngor, nid oes digon o allu ar hyn o bryd gan ddarparwyr eraill i lenwi’r bwlch yn y gwasanaethau.'
'Rydym wedi cael sicrwydd nad yw'r toriadau i wasanaethau yn cael eu gyrru gan gymhellion ariannol. Mewn gwirionedd, rydym yn deall bod darparu gwasanaethau bysiau yng Ngwynedd bellach yn costio £400,000 ychwanegol i'r Cyngor.'
‘Rydym yn cydnabod gwaith y Cyngor i geisio llenwi’r bylchau yn y gwasanaeth yn dilyn terfynnu trwydded weithredu Express Motors ac rydym yn gweithio gyda’r Cyngor wrth i ni symud ymlaen at drefniant cynaliadwy.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter