Mae Sian Gwenllian AC yn annog elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn Arfon i roi cais i gronfa Loteri Côd Post y Bobl. Mae cyfle i geisio am rhwng £500 a £20,000 o’r gronfa. Arian sydd wedi ei godi gan chwaraewyr Loteri Côd Post yw hwn.
O’r 14eg o Chwefror bydd rownd nesaf y gronfa ar agor i geisiadau o Ymddiriedolaeth Côd Post y Bobl, Ymddiriedolaeth Lleol Côd Post ac Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd Post.
Am fwy o fanylion cliciwch ar yr isod:
Ymddiriedolaeth Côd Post yn chwilio am geisiadau gan prosiectau sy’n canolbwyntio ar atal tlodni, hyrwyddo hawliau dynol a hawliau cyfartal. www.postcodetrust.org.uk
Ymddiriedolaeth Lleol Côd Post yn cefnogi gerddi cymunedol, llefydd chwarae, bywyd gwyllt a prosiect ynni gwyrdd. www.postcodelocaltrust.org.uk
Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd Post yn canolbwyntio ar raglenni chwaraeon sylfaenol, celf, hamdden a byw yn iach. www.postcodecommunitytrust.org.uk
Dyddiad cau am ceisiadau - 28ain o Chwefror.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter