Mae AC Arfon Siân Gwenllian, Hywel Williams AS a staff swyddfa Plaid Cymru Arfon wedi lansio eu hymgyrch Calendr Adfent Tu Chwith eto eleni, ar ôl i ymdrech y llynedd olygu fod 200kg o fwyd wedi gasglu i Fanciau Bwyd Caernarfon a Bangor.
Maent yn annog eu hetholwyr i gymryd rhan gan wneud eu basgedi neu eu bocsys eu hunain neu ddod a’u rhoddion i swyddfa Plaid Cymru yng Nghaernarfon.
Bwriad y Calendr Adfent Tu Chwith ydi i droi’r Calendr Adfent traddodiadol ar ei ben, gan roi rhywbeth bob dydd yn hytrach na derbyn. Bydd staff y swyddfa yn rhoi eitem o fwyd mewn basged bob dydd ym mis Rhagfyr hyd at ddydd Iau yr 20fed, ac mi fydd yr holl nwyddau yn cael eu rhannu rhwng banciau bwyd Caernarfon a Bangor.
“Mae’r gaeaf a’r Nadolig yn adegau anodd iawn i deuluoedd incwm isel” meddai Siân Gwenllian, “ac maen nhw’n aml yn gorfod gwneud y dewis anodd rhwng talu am wres a phrynu bwyd, heb son am fod eisiau prynu anrhegion i blant a theulu hefyd. Mae’r Nadolig yn rhoi pwysau mawr ar bobol gan bod y disgwyliadau mor uchel, ac i nifer o deuluoedd yn yr etholaeth hon a thrwy Gymru mae bwydo a chadw eu plant yn gynnes yn ddigon o sialens ynddo’i hun. Mae cynnydd aruthrol yn y defnydd o fanciau bwyd dros y gaeaf, gyda’r coffrau yn gallu rhedeg yn isel.
Yn ôl ystadegau a ddaeth gan Ymddiriedolaeth Trussell, rhwng Ebrill 1af a Medi 30ain eleni, dosbarthwyd 1008 pecyn bwyd brys i helpu pobl mewn argyfwng yn Arfon, gyda 460 o’r rheiny yn mynd i blant.
Ar draws y DU, mae banciau bwyd o fewn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yn rhannu 658,048 o becynnau bwyd tri diwrnod i helpu pobl mewn argyfwng, cynnydd o 13% ar y flwyddyn flaenorol. O’r rhain, aeth 232,761 i blant. Dyma fesur o’r swm a ddosbarthwyd yn hytrach nag o ddefnyddwyr, ac ar gyfartaledd roedd ar bobl angen 1.7 atgyfeiriad banc bwyd mewn cyfnod o chwe mis.
Gwelodd Gymru gynnydd o 13% yn y galw am becynnau bwyd mewn cymhariaeth a’r un cyfnod y llynedd.
“Mae’r ffigyrau i Arfon ac yn wir i Gymru a gweddill y DU yn frawychus ac yn sgil y cyfnod aros o 5 wythnos ar gyfartaledd cyn i bobl dderbyn eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, fydd pethau ond yn gwaethygu”, meddai Hywel Williams. “Dyma’r ail flwyddyn i ni yn Plaid Cymru Arfon wneud Calendr Adfent Tu Chwith - mae’n rhywbeth syml a hawdd i’w wneud mewn cartrefi a swyddfeydd, ac mae’n dod a budd mawr i deuluoedd anghenus. Y cyfan sydd angen gwneud yw rhoi eitem mewn bocs neu fasged bob dydd ym mis Rhagfyr a’i gyflwyno i’ch banc bwyd lleol cyn y Nadolig. Neu, mi allwch ddod a’ch rhoddion atom ni yn Swyddfa Plaid Cymru, 8 Stryd y Castell, Caernarfon.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter