Cefnogaeth trawsbleidiol i alwad Plaid Cymru am gefnogaeth i hosteli.

Mae Cynnig gan Blaid Cymru yn San Steffan sy’n galw ar Drysorlys y DU i ddarparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer hosteli sydd wedi dioddef oherwydd Covid-19, wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol eang. 

Mae'r Cynnig a gyflwynwyd gan Liz Saville Roberts AS ac a noddir gan Hywel Williams AS yn galw ar y Trysorlys i roi pecynnau cymorth brys ar waith ar gyfer y sector hosteli, wrth i ffigurau gan y Gymdeithas Hosteli Ieuenctid (YHA) ddangos cwymp o £30m mewn incwm ers mis Mawrth. 

Mae'r Cynnig wedi sicrhau cefnogaeth yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur, y DUP, a'r Blaid Werdd. 

Mae cannoedd o hosteli a byncdai ledled y DU wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y pandemig gan gael effaith drychinebus ar incwm a swyddi yn y sector, yn enwedig mewn rhannau gwledig o'r DU. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS

'Mae hosteli wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan Covid-19. Mae gofod sy’n cael ei rannu fel ystafelloedd ymolchi a cheginau yn aml yn rhan o fodel busnes hostel. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i lawer weithredu, a hyd yn oed ailagor tra bod canllawiau iechyd angenrheidiol mewn lle.'

'Mae ofn gwirioneddol yn y sector na fydd llawer o hosteli a byncdai yn gallu adfer yn ariannol yn ystod misoedd y gaeaf i'w cynnal nes bod cyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn cael eu codi.'  

'Ynghyd â llawer o fusnesau yn y sector twristiaeth, hamdden, lletygarwch a'r celfyddydau; mae hosteli a’r swyddi y maent yn eu cefnogi, yn wynebu gaeaf llwm ac ansicr oni bai eu bod yn cael cefnogaeth ddigonol gyda chymorth ariannol wedi’i dargedu.’ 

'Dyna pam y mae'n rhaid i'r llywodraeth wrando ar alwadau trawsbleidiol yn San Steffan ond yn fwy penodol, gan y sector ei hun a sicrhau bod mesurau iechyd yn cael eu ategu gan gefnogaeth economaidd.' 



Dywedodd Hywel Williams AS, 

'Mae hosteli yn aml yn cael eu defnyddio gan bobl sy'n chwilio am wyliau awyr agored iach am brisiau rhesymol a bydd hyn yn bwysig iawn ar ôl Covid-19.' 

'Mae'n ddealladwy ei bod hi'n anodd i hosteli agor ar hyn o bryd. Mae'n hanfodol bod hosteli yng Ngwynedd ac ar draws Cymru yn barod i weithredu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailagor.' 

'Rhaid i'r llywodraeth ddarparu cefnogaeth sector-benodol, wedi'i thargedu, i'w cynnal trwy fisoedd anodd y gaeaf.' 

'Rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun bod hosteli yn chwarae rhan allweddol yn yr economi wledig, gan ddenu ymwelwyr sy'n cefnogi busnesau lleol a darparu buddion o ran hybu iechyd corfforol a meddyliol.' 

'Rwy'n annog y llywodraeth i weithredu rwan neu ni fydd llawer o hosteli a byncdai yn gallu adfer yn ariannol er mwyn eu cynnal nes bod cyfyngiadau'n cael eu codi.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-17 10:37:59 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd