Yn ôl AS lleol, bydd yr ailddatblygiad gwerth £5.8m yn creu swyddi ac yn cydnabod hanes pwysig y dref
Mae Siân Gwenllian AS wedi ymweld â’r ailddatblygiad gwerth £5.8m yng Nghei Llechi, Caernarfon yn ddiweddar.
Mae’r prosiect adfywio sylweddol ar lannau Afon Seiont, a weithredwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri, yn cynnwys 19 o unedau gwaith ar gyfer cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol.
Ariannwyd y prosiect trwy becyn ariannol yn cyfuno mwy na £3.5m o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ogystal â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Croeso Cymru, Cadw a Chyngor Gwynedd.
Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd, draw i’r Cei Llechi;
“Roedd yn wych ymweld â’r ailddatblygiad, yng nghwmni Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon, sydd bellach yn gyfrifol am redeg yr adnodd o ddydd i ddydd.
“Mae’r ailddatblygiad gwerth £5.8m yn amserol, ac yn cyd-fynd â chyhoeddiad UNESCO y bydd ardaloedd llechi Cymru yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
“Mae’r prosiect wedi bod yn arloesol wrth greu cyfuniad perffaith o’n hanes cyfoethog a’n dyfodol entrepreneuraidd.
“Mae’r gwaith celf a’r bensaernïaeth yn cydnabod arwyddocâd hanesyddol aruthrol yr ardal, fel canolbwynt diwydiannol y byd ar un adeg.
“Mae themâu chwarelyddol a morwrol yn rhedeg drwy’r dyluniad.
“Fe ddysgodd Covid-19 bwysigrwydd y lleol inni, ac mae Cei Llechi Caernarfon yn ddathliad o gynnyrch, creadigrwydd, a thalent lleol.”
Mae Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon wedi galw’r prosiect yn “bennod newydd cyffrous yn hanes yr ardal”;
“Mae’n gyfuniad sensitif o hen adeiladau’r safle yn ogystal ag adeiladau newydd o’i gwmpas.
“Mae lês wedi cael ei gytuno ar dros 50% o’r 19 uned bellach. Rydym yn parhau i hyrwyddo gweddill yr unedau a hoffem glywed gan wneuthurwyr a hoffai eu sefydlu eu hunain yn Cei Llechi.
“Mae’r ailddatblygiad bellach wedi’i gwblhau a bydd Cei Llechi yn cyfrannu at ddatblygu busnes, creu swyddi, yn ogystal â bod yn atyniad ychwanegol ar gyfer ein cymuned leol ac ymwelwyr.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter