Ydych chi’n fenyw ifanc rhwng 16 a 25 oed? Ydych chi erioed wedi ystyried sut mae penderfyniadau am iechyd, addysg a threchu tlodi yn cael eu gwneud yng Nghymru? Mae Chwarae Teg, elusen sy’n ymwneud a chydraddoldeb rhywiol, yn gwahodd menywod ifanc o Gymru i gymryd rhan yn eu prosiect newydd, LeadHerShip , ac mae AC Arfon, Sian Gwenllian, wedi cytuno i gymryd rhan.
Fel rhan o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018, mae cyfle i fenywod ifanc ar hyd a lled Cymru gysgodi eu Haelod Cynulliad am y dydd a darganfod sut brofiad yw bod yn rhywun sy’n gwneud penderfyniadau. Ar dydd Mawrth 27ain o Chwefror 2018 mae cyfle i gysgodi Sian Gwenllian am y diwrnod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallech fod yn rhan o grŵp o fenywod ifanc o bob cwr o Gymru a chael profiad ymarferol gan fodelau-rôl ysbrydoledig sy’n rhan o fywyd cyhoeddus Cymru. Byddwch yn treulio amser gyda Sian yn dysgu sut mae’r Cynulliad yn gweithio. Mae’r diwrnod yn cynnwys taith o amgylch y Cynulliad, sesiwn holi ac ateb gydag Aelodau Cynulliad benywaidd a ‘dadl ffug’ lle byddwch yn trafod rôl menywod yn y Gymru sydd ohoni.
I gymryd rhan anfonwch ceisiadau erbyn 5.00 o’r gloch, Dydd Gwener 12 Ionawr 2018 trwy https://www.cteg.org.uk/leadhership.
Bydd enillwyr yn cael eu dewis gan aelodau o dîm Chwarae Teg ac Aelodau Cynulliad.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter