Mae AC Arfon Siân Gwenllian wedi croesawu cynllun newydd o gyrsiau Cymraeg am ddim a fydd yn cymryd lle mewn 76 lleoliad ar hyd a lled Cymru ac a fydd yn cyflwyno’r Gymraeg i rieni plant ifanc.
Meddai Siân Gwenllian:
“Clwb Cwtsh ydi enw’r cynllun sydd ar y cyd rhwng y Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg, ac mae’n defnyddio gemau a chaneuon i gyflwyno’r Gymraeg i rieni ifanc yn y gobaith y byddan nhw’n mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant.
“Lansiwyd y cynllun yn y Cynulliad – sef un o’r 76 lleoliad ar gyfer y cyrsiau – ac roedd hi’n braf iawn siarad efo rhieni ifanc yno sydd yn frwd dros ddysgu’r Gymraeg efo’u plant. Mi wn i am nifer o deuluoedd ifanc yn fy etholaeth i sydd a’u plant yn mynychu ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac yn dod i siarad Cymraeg yn gwbwl naturiol felly, ac mi fydd yna groeso mawr i’r cyrsiau yma a fydd yn galluogi rhieni i ddod yn ddigon hyderus i siarad a chwarae gyda’u plant drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Canlyniad cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni ydi hwn ble y gwelwyd 500 o rieni yn cwblhau’r cwrs.
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Dwi wrth fy modd ein bod ni’n lansio ail gyfres Clwb Cwtsh. Ers inni ddechrau’n gynharach eleni, rydym wedi cael ymateb gwych ledled Cymru. Mae’r ffaith y gall blant ddod i’r sesiynau gyda’u teuluoedd wedi cael ei chroesawu. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn tyfu ar lawr gwlad.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter