Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru wedi croesawu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n galw am ysgol feddygol i Ogledd Cymru i fynd i'r afael â'r prinder meddygon dybryd sy'n wynebu Cymru.
Comisiynwyd 'Delio â'r Argyfwng', a gyhoeddwyd fis diwethaf, gan Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS. Mae'r adroddiad yn cyflwyno'r achos am drydedd ysgol feddygol yng Nghymru wedi'i lleoli ym Mangor. Dywed hefyd fod argyfwng o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol mewn sawl rhan o Gymru, yn arbennig y gogledd ac ardaloedd gwledig, a bod ysgol feddygol wledig yn rhan allweddol o'r ateb cenedlaethol i ddatrys y broblem.
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru yn llwyr gefnogi'r adroddiad, gan ddweud na fydd y GIG yn gallu cwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd mewn gofynion clinigol onibai fod mesurau'n cael eu sefydlu i gynyddu gweithlu GIG Cymru.
Meddai Dr Gareth Llewelyn, Is Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru: "Fel y corff proffesiynol ar gyfer meddygon yng Nghymru, rydym wedi galw'n gyson am ddull mwy arloesol a chyd-gysylltiedig o recriwtio a chadw staff y GIG. Credwn ei bod hi’n bryd cael cynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu meddygol a hyfforddiant, a hwnnw’n cael ei arwain gan glinigwyr.
"Mae bylchau mawr yn rotâu graddfa hyfforddeion ac ymgynghorwyr ym mhob ysbyty yng Nghymru ac mae 92% o'n ymgynghorwyr wedi dweud wrthym eu bod yn cael eu hunain yn gwneud swyddi a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan feddyg iau, oherwydd bod y bylchau yn y rota mor ddifrifol.
"Nid oes digon o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru yn gwneud cais am le mewn ysgolion meddygol, ac mae'r niferoedd yn gostwng bob blwyddyn. Dyma pam rydym yn croesawu'r cyfraniad a wna 'Delio â'r Argyfwng at y drafodaeth hon."
Mae'r nifer o fyfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth wedi gostwng 15% mewn pum mlynedd – gostyngiad mwy nag yng ngweddill y DU – ac mae gan ogledd a gorllewin Cymru lai a feddygon teulu i bob 10,000 o'r boblogaeth nag mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn 2015-16, roedd 50% o swyddi ymgynghorwyr arbenigol yng ngogledd Cymru heb eu llenwi ac ym mis Chwefror eleni datgelwyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario £21m ar staff meddygol o asiantaethau mewn cyfnod o 11 mis.
Meddai Siân Gwenllian: "Rwy'n hynod ddiolchgar i Goleg Brenhinol y Meddygon Cymru am gefnogi'r ymgyrch dros gael trydedd ysgol feddygol i Gymru. Mae yna'n barod lawer iawn o gefnogaeth broffesiynol a gwleidyddol i'r ddadl dros sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd orllewin Cymru, ac i fanteisio ar adnoddau ardderchog Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
"Gyda nifer o feddygon yn agosau at oed ymddeol, a phrinder pobl ifanc sy'n cael eu hyfforddi yma, mae gwasanaethau gofal iechyd eisoes yn wynebu her fawr. Mae ysgol feddygol newydd yn rhan hollbwysig o'r ateb hirdymor i sicrhau bod gennym ddigon o feddygon yn y dyfodol i gwrdd ag anghenion ein cymunedau, yn arbennig yma yn y gogledd ac ardaloedd gwledig eraill."
Mae Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, hefyd wedi bod yn ymgyrchu ers tro i sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Meddai: "Rydyn ni wedi bod yn galw am ysgol feddygol ym Mangor ers amser maith. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru wireddu'r addewid a wnaed flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd Betsi Cadwaladr.
"Mae'r ffaith fod gan Gymru ddwy ysgol feddygol, yng Nghaerdydd ac Abertawe – a dim un yma yn y gogledd – yn enghraifft arall o'r anghydraddoldeb sy'n wynebu nifer o'n cymuendau.
"Yn ogystal â chau a diddymu gwasanaethau mewn pentrefi a threfi gwledig, mae diffyg buddsoddiad mewn hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru yn enghraifft arall o anghydraddoldeb o ran iechyd a lles.
"Mae'n golygu hefyd nad oes gan ein pobl ifanc yr un dewis i hyfforddi fel meddygon yn eu cymunedau eu hunain."
Mae 'Delio â'r Argyfwng' ar gael i'w lawrlwytho o wefan Siân Gwenllian AC www.plaidcymruarfon.org
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter