Mae AC Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o system ardrethi busnes ar draws Cymru, tra bod pryderon yn parhau am sut mae trethi yn cael eu gosod a faint o ryddhad sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig.
Mae Siân Gwenllian wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei threfnu gan berchnogion busnes Caernarfon, Endaf Cooke a Gavin Owen ac yn cael ei chefnogi gan fusnesau ar draws yr etholaeth, yn galw i’r mater gael ei drafod yn y Senedd.
Daw galwadau Siân Gwenllian yn dilyn cyhoeddiad yn gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru na fydd busnesau gyda gwerth ardrethol o £9,100 neu lai yn talu trethi busnes, ond mae pryderon yn parhau fod rhai busnesau bach yn parhau dan anfantais o dan y drefn bresenol.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn rhyddhad trethi ymhellach a chyflwyno system raddedig i fusnesu gyda gwerth ardrethol rhwng £10,000 a £20,000.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Tra fy mod yn croesawu’r camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i leihau baich trethi busnes ar fusnesau bach, y neges dwi’n ei gael gan fusnesau o fewn fy etholaeth yw fod gwaith pellach angen ei wneud i adolygu’r system sy’n dyfranu trethi busnes.’
‘Mae busnesau bach Caernarfon, Bangor ac ar draws Arfon ac ar hyd a lled Cymru yn haeddu cefnogaeth lawn. Er gwaethaf camau gan Lywodraeth Cymru, mae biwrocratiaeth ac anghysondebau yn parhau.’
‘Mae trethi busnes yn rhan helaeth o gostau gweithredu busnesau bach mewn cymhariaeth â busnesau mawr; yn wir i sawl busnes bach o fewn fy etholaeth, maent yn fyrdwn ar elw.’
‘Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned fusnes yng Nghaernarfon a thu hwnt er mwyn rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth Lafur Caerdydd i wneud mwy i gefnogi’r stryd fawr a’r gymuned fusnes yng Nghymru.’
‘Mae’r ddeiseb yma yn arwyddocâd o gryfder teimladau lleol y dylid gwneud mwy i helpu busnesau bach. Dyna pam dwi’n galw am adolygiad cynhwysfawr o’r holl system fel bod trethi busnes yn gweithio yn fwy effeithiol i economi Cymru.’
‘Byddai lleihau baich trethi busnes yn rhyddhau llif arian a fyddai’n galluogi i fusnesau bach ehangu, buddsoddi a chreu gwaith, a dyna sydd angen ar y stryd fawr.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter