SYSTEM DRWYDDEDU A HYFFORDDIANT YN GREIDDIOL I DDELIO A DEFNYDDWYR ANGHYFRIFOL – HYWEL WILLIAMS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams wedi llêd-groesawu mesurau newydd i fynd i’r afael â’r defnydd anghyfrifol o jet sgïs, ar ôl ymgyrchu ar y mater ers blynyddoedd, ond mae wedi ailadrodd ei alwad am system drwyddedu briodol a rhaglen hyfforddi i ymdrin â defnyddwyr anghyfrifol.
Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno gan lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chamddefnydd peryglus o gychod dŵr fel jet sgïs, gydag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn cael mwy o bwerau i erlyn y rhai sy’n achosi damweiniau.
Bydd y gyfraith newydd, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2023, yn galluogi i ddefnyddwyr jet sgïs gael eu herlyn a’u rhwymo gan yr un deddfau sy’n berthnasol i longau, er na fydd unrhyw ofyniad am hyfforddiant na system drwyddedu, fel yr argymhellwyd gan Mr Williams yn ei Fesur Seneddol yn 2020.
Mae’r AS Plaid Cymru dros Arfon - sydd a rhannau o’i etholaeth yn ardaloedd poblogaidd gyda defnyddwyr jet sgïs a cychod cyflym fel y Fenai, wedi galw ers tro am system drwyddedu ar gyfer defnyddwyr jet sgïs gyda hyfforddiant a phrawf cymhwysedd.
Cyflwynodd Mr Williams Fesur yn y Senedd yn 2020 i geisio rheoleiddio’r defnydd o jet sgïs trwy ddod â system drwyddedu ar gyfer y DU gyfan i mewn fel y byddai angen trwydded ar yrwyr jet sgïs, yn debyg iawn i yrwyr beiciau modur, cyn cael caniatâd i weithredu’r peiriannau.
Wrth wneud sylw ar y cyhoeddiad, dywedodd Hywel Williams AS:
‘Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU o’r diwedd wedi gwrando ar bryderon Plaid Cymru am y perygl y mae jet sgïs yn ei achosi i nofwyr a bywyd gwyllt – ond rwy’n ofni nad yw’r bygythiad o gosb yn unig yn ddigon i atal defnydd anghyfrifol o’r peiriannau hyn.’
'Ar hyn o bryd mae'n bosibl i unrhyw un, hyd yn oed plentyn mor ifanc â 12 oed, yrru jet sgïs. Nid oes angen trwydded ar yrrwr jet sgi – yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd eraill yr UE a thu hwnt, sydd eisoes â system drwyddedu lem ar waith.'
‘Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn lefel y cwynion am gamddefnydd o jet sgïs ar hyd cymunedau arfordirol Gwynedd, gan gynnwys aflonyddu ar fywyd môr lleol fel dolffiniaid ac adar y môr, heb sôn am y trasiedïau personol sydd wedi codi pan fydd damweiniau'n digwydd.'
‘Er bod y cyhoeddiad am bwerau statudol newydd i ymdrin â defnyddwyr jet sgïs anghyfrifol yn gam i’r cyfeiriad cywir, mae’n methu â mynd i’r afael â chraidd y mater – sef bod unrhyw un yn dal i allu gyrru jet-sgi heb fod angen unrhyw hyfforddiant na thrwydded.’
'Felly yn hytrach na chyflwyno mesurau ataliol, mae'r ddeddfwriaeth hon yn trin y symptomau ac nid yr achos. Gallai'r rhai y canfyddir eu bod yn torri'r deddfau newydd wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar a dirwy ddiderfyn, ac eto nid oes unrhyw fesurau ataliol yn y ddeddfwriaeth hon.'
'Roedd y Mesur a gyflwynais yn y Senedd yn 2020 yn ceisio unioni'r anghysondeb hwn drwy gyflwyno system drwyddedu ar gyfer y DU gyfan fel y byddai angen trwydded ar yrwyr jet sgïs, yn debyg iawn i yrwyr beiciau modur, cyn cael caniatâd i weithredu'r peiriannau dŵr.'
'Mae deddfwriaeth gadarn ar waith ar draws llawer o wledydd Ewropeaidd i reoleiddio'r defnydd o jet sgïs, yn rhannol drwy system drwyddedu a orfodir yn llym.'
'Mae'n gwneud synnwyr felly bod angen deddfwriaeth fwy cynhwysfawr i sicrhau bod trefniadau tebyg yn cael eu cyflwyno yng Nghymru a gweddill y DU sy'n ymgorffori hyfforddiant gorfodol a thrwyddedu yn ogystal â chosbau am ddefnydd amhriodol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter