Siân yn croesawu'r Eisteddfod i Wynedd
Dyma neges gan Siân Gwenllian AS ar drothwy ymweliad ein prifwyl â Gwynedd:
"Â’r aros bron ar ben, mae’n bleser croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Wynedd!
"Gwn fod cymunedau ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon wedi bod wrthi'n ddyfal yn codi arian, yn trefnu dros wythnos o weithgareddau, ac yn harddu'r ardal ar gyfer ymweliad ein prifwyl.
"Dymunaf pob hwyl i etholwyr sy'n cymryd rhan, neu sydd yno i fwynhau arlwy o ddiwylliant a chelfyddydau.
"Mae gennyf innau gyfres o sgyrsiau y byddaf yn cymryd rhan ynddynt, maent wedi’u nodi isod.
Welwn ni chi ym Moduan!"
Diwrnod |
Amser |
Pwy |
Lle |
Sadwrn 5/8/23 |
14:00 |
Sicrhau Cymunedau Ffyniannus: Gyda’n Gilydd |
Cymdeithasau 2
|
Mawrth 8/8/23 |
13:00 |
Gwneud gwahaniaeth: y Cytundeb Cydweithio |
Stondin y Blaid |
Mercher 9/8/23 |
17:30 |
Menter a Busnes: Sut mae denu pobl ifanc i fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru? |
Cymdeithasau 2 |
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter