AS ARFON YN CEFNOGI YMGYRCHWYR IFANC YM MANGOR.
Hywel yn addo sefyll mewn undod ag actifyddion ifanc sy'n brwydro am gyfiawnder hinsawdd.
Ymunodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams â channoedd o ymgyrchwyr hinsawdd ifanc ym Mangor heddiw ar gyfer diwrnod o weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd sy’n ein gwynebu a rhoi pwysau ar lywodraeth y DU i ymateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r blaned.
Mae’r Aelod Seneddol wedi galw ar y sefydliad gwleidyddol yn Llundain i fynd i’r afael a fyrder yn yr argyfwng newid hinsawdd.
Dywedodd AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams,
‘Mae gwybod gyda elfen o sicrwydd bod ein triniaeth bresenol o’r amgylchedd yn arwain at ddifrod anadferadwy a thrychinebus ohoni a thra’n gwneud cyn lleied amdano, yn dangos heb os fod ein system wleidyddol wedi torri.’
‘Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl ifanc yn y rali heddiw ym Mangor, yn sefyll dros eu dyfodol a dyfodol ein planed. Pobl ifanc wedi'r cyfan sy'n ysbrydoli newid.'
‘Mae’r amser ar gyfer tincian o amgylch yr ymylon wedi mynd heibio. Mae angen gweithredu byd-eang radical arnom i wyrdroi effeithiau newid hinsawdd.’
‘Mae’r rhybuddion gan wyddonwyr wedi bod yno ers blynyddoedd ond mae llywodraethau olynol wedi eistedd ar eu dwylo a’u hanwybyddu.’
‘Hoffwn ddiolch i bawb fu’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad pwysig hwn ac i’r oddeutu tri chant a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth i’r achos pwysig ac amserol yma.’
‘Rwy’n sefyll gyda chi heddiw a phob dydd, nes ein bod yn cael cyfiawnder dros newid hinsawdd.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter