Mae Plaid Cymru Gwynedd yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar o gytundeb ar gynnydd yng nghyflogau gweithwyr Llywodraeth Leol. Golyga hyn y bydd gweithwyr Cyngor Gwynedd yn derbyn Cyflog Byw Cenedlaethol neu fwy o’r 1af o Ebrill 2018.
Bu grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn gweithio dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau cyflog teg i’r gweithlu, gan ddiddymu'r ddau bwynt isaf (pwynt 6 a 7) yn strwythur cyflog staff. O ganlyniad mae isafswm cyflog yn codi o’r £7.90 i £8.62 yr awr ar y 1af o Ebrill 2018 ac o fis Ebrill, 2019 ymlaen i £9.18 yr awr.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn: “Mae addasu strwythur cyflogaeth yn broses gymhleth, ac mae sicrhau’r symudiad positif yma i wella cyflogaeth ein staff sydd ar yr incwm isaf, wedi bod yn digwydd dros nifer o flynyddoedd.
“Mae gennym weithlu cryf, gweithgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i drigolion Gwynedd. Dwi’n falch o allu cyhoeddi heddiw bod cyflog byw cenedlaethol yn dod i fwyafrif helaeth o staff* Cyngor Gwynedd.”
“Rydym yn gweithio mewn cyfnod heriol yn ariannol, gyda phwysau cynyddol yn dod i gyllideb gyfan y Cyngor, o du’r Torïaid yn Llundain a’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd. Ond fel Plaid, rydym yn benderfynol o wella tâl staff sydd ar y cyflogau isaf sy’n gweithio’n ddiflino mewn gwahanol feysydd ar hyd a lled y sir.”
“Mae’r cyhoeddiad yn newydd da i nifer o’n staff sy’n gweithio mewn swyddi fel glanhau, cymorthyddion cegin ac mewn swyddi gofal achlysurol. Mae unrhyw welliant y gallwn ei chynnig i gyflogau staff yn dangos ein hymrwymiad fel cyflogwr i wella ansawdd byw a chadarnhau bod diwrnod da o waith yn haeddu tâl teg.”
Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian: “Dwi’n falch o fod wedi chwarae rhan yn pwyso am y newid hwn. Nôl yn 2014, fel aelod o Gyngor Gwynedd y cychwynnais y gwaith o sicrhau gwell tâl i staff Gwynedd. Wedi symud i weithio yn y Cynulliad a gweithio’n genedlaethol yn y maes, dwi’n ymfalchïo bod newid wedi dod a thalu cyflog byw cenedlaethol a mwy i’r gweithwyr ar y raddfa isaf. Mae’n arwydd o barch a thegwch cymdeithasol bod tâl teg yn dod i weithwyr Gwynedd ledled y sir.”
Trwy gynllunio gofalus, mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi darparu £2miliwn ar gyfer y cynnydd yng nghyllideb ariannol y Cyngor eleni.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter