Pasiodd yr ymgyrch y targed gwreiddiol
Llwyddodd yr ymgyrch i basio’r targed gwreiddiol i gefnogi elusen cancr lleol.
Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd a San Steffan, ac mae eu hapêl Nadolig wedi codi £1,040 i Gafael Llaw, elusen sy’n cefnogi plant yng Ngwynedd ac Ynys Môn gyda chanser.
Mae gwaith yr elusen yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth ariannol i Ward Dewi Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a’r elusen Clic Sergant.
Mae’r elusen wedi cynnal nifer o weithgareddau ers ei sefydlu, gyda llawer ohonynt yn derbyn sylw cenedlaethol, gan gynnwys Tour de Cymru, taith feicio 650 milltir o amgylch ysbytai plant Cymru. Cododd yr elusen dros £110,000 yn ystod ei dwy flynedd gyntaf.
Wrth drafod yr ymgyrch, dywedodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon:
“Fe lawnsion ni’r ymgyrch yn gynnar ym mis Rhagfyr, gan osod targed gwreiddiol o £300.
“Roeddan ni wrth ein boddau i gyrraedd y targed hwnnw’n fuan, cyn gosod targed newydd o £1,000, a chyrraedd y targed hwnnw hefyd.
“Mae’r elusen yn achos mor deilwng, elusen sy’n cefnogi teuluoedd lleol mewn sefyllfa anhygoel o anodd. Rwy’n gobeithio y bydd y £1,040 yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gefnogi eu gwaith da.”
Aeth yr ASau lleol draw i gwrdd ag Iwan Trefor Jones ac Anne Owen o Gafael Llaw i gyflwyno’r siec. Treuliodd Anne, sy’n gwirfoddoli â Gafael Llaw, 45 mlynedd fel nyrs ar wardiau plant.
Yn ôl Hywel Williams AS:
“Rwy’n falch iawn bod ein hapêl Nadolig wedi bod mor llwyddiannus a hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd mor hael.
“Mae’n dyst i’r parch mawr sydd gan y gymuned leol at Gafael Llaw.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr arian yn cyfrannu at leddfu’r baich sydd ar bobl ifanc gyda chanser a’u teuluoedd.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Gafael Llaw:
“Pwrpas Gafael Llaw yw cefnogi y gofal I blant efo cancr yn lleol.
“Mae’r elusen wedi ariannu nifer o welliannau yn Ward Dewi, Alder Hey yn Lerpwl ac yn cefnogi gweithgareddau Clic Sargent yn lleol.
“Rydym yn hynod werthfawrogol o gyfraniad ariannol gan Blaid Cymru Arfon. Bydd hyn o gymorth I ni wrth barhau efo’n hymdrechion I wneud gwahaniaeth positif I fywydau plant a phobl ifanc yr ardal.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter