Dyma gasgliad o rai o gyhoeddiadau gan Siân Gwenllian AS dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eu plith mae:
- Ymchwil mae Siân wedi’i gomisiynu i gefnogi ei gwaith yn Arfon
- Papurau polisi cenedlaethol
- Diweddariadau ar waith Siân yn Arfon
- Materion mewnol Plaid Cymru
Cyrraedd y Miliwn
Comisiynwyd Iaith: Y Ganolfan Cynllunio Iaith i lunio’r ddogfen hon gan Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad ac Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros yr iaith Gymraeg, Cynllunio, Llywodraeth Leol a Chydraddoldeb ar y pryd. Bwriad y ddogfen yw amlinellu rhai o’r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.
Cytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru
Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021. Trefniant i weithio gyda’n gilydd ar feysydd polisi penodol, gan gynnwys Cinio Ysgol am Ddim a Gofal Plant am Ddim. Cliciwch yma i ddarllen cytundeb.
Delio â’r Argyfwng: ysgol feddygol newydd i Gymru
Comisiynwyd yr adroddiad hwn er mwyn gwneud yr achos dros sefydlu ysgol feddygol newydd yng Nghymru i fynd i’r afael â phrinder meddygon a gwella hyfforddiant meddygol yn y wlad. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.
Dyfodol y Gorllewin
Papur trafod ynglŷn â chydweithio er lles yr economi a’r Gymraeg, wedi gomisiynu gan Adam Price AC a Siân Gwenllian AC. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Llenwi'r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor
Mae manteision lu i Gymru gyfan o sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd ym Mangor ac er mwyn tystiolaethu hyn, comisiynwyd yr adroddiad hwn gan gwmni ymchwil annibynnol Lafan, ac mae’r casgliadau trawiadol yn cael eu cyhoeddi yma. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Y Gymraeg mewn addysg: cryfhau drwy ddeddfu?
Papur ynglŷn â deddfu ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg o fewn gofal plant, addysg a hyfforddiant. Ysgrifennwyd gan Gareth Pierce a chomisiynwyd gan Siân Gwenllïan AC. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Yr Angen Lleol am Dai a'r Gymraeg yn y System Gynllunio
Papur trafod ar yr angen lleol am dai a’r Gymraeg yn y system gynllunio. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Cartref i bawb: Yr Hawl i Dai Digonol, Rheoli Rhenti a Fforddiadwyedd
Y papur hwn yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n dechrau nodi cynigion tai Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026. Papur 1 yw ein safbwynt polisi ar yr hawl i dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Diweddariadau Siân yn Arfon:
• Hydref 2024
• Tachwedd 2024
• Rhagfyr 2024
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter