Mae Plaid Cymru wedi sicrhau bargen ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru fydd yn dod â manteision sylweddol i Arfon, medd AC y Blaid dros Arfon, Siân Gwenllian.
Dywedodd Siân Gwenllian mai’r fargen ar y gyllideb a sicrhawyd gan ei blaid yw’r fargen fwyaf ar y gyllideb am un flwyddyn yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd yn dod â manteision sylweddol Arfon ac i’r gogledd.
Ymysg y manteision a sicrhawyd gan Blaid Cymru, fe fydd;
· £7m o fuddsoddiad pellach mewn hyfforddiant meddygol i gael mwy o feddygon yn gweithio yn y GIG, gan gynnwys ysgolion meddygol – yn dod a Ysgol Feddygol i Fangor cam ymhellach
· £25m mwy o arian i awdurdodau lleol, a fydd yn golygu bod gwasanethau cyhoeddus yn derbyn gyllideb ychydig yn fwy blwyddyn nesaf
· £20m ychwanegol mewn gwariant ar iechyd meddwl
· Buddsoddiad enfawr o £30 miliwn mewn prifysgolion a champysau Addysg Bellach, fydd o les i sefydliadau megis Prifysgol Bangor a Choleg Meirion Dwyfor
· Creu miloedd o brentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru
· £5m i’r iaith Gymraeg
· £3 tuag at gynllun peilot o barcio am ddim yng nghanol trefi – yn ymateb i alwadau gan Ardal Gwella Busnes Bangor, Hwb Caernarfon a busnesau bach yn Arfon.
· Mwy o gyllid i’r celfyddydau
· Dyblu cyllideb Visit Wales i hybu twristiaeth.
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian:
“Hon yw’r fargen fwyaf ar y gyllideb yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn fwy na hynny, dyma’r fargen orau erioed i ogledd Cymru ac i Arfon. Ers cychwyn tymor y Cynulliad hwn, gwnaeth Plaid Cymru hi’n glir y byddwn yn defnyddio ein rôl fel yr Wrthblaid Swyddogol i roi gwir enillion i bobl Cymru, a dyna beth yr ydym wedi llwyddo i’w wneud heddiw.”
“Bydd ein bargen yn gweld buddsoddiad enfawr mewn addysg, trwy ein prifysgolion a’n colegau Addysg Bellach, a thrwy greu miloedd o brentisiaethau newydd. Mae Plaid Cymru wedi sicrhau buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, a fydd yn golygu mwy o gyfarpar diagnostig i leihau amseroedd aros, a bydd yn golygu hefyd y gallwn hyfforddi mwy o feddygon i weithio yn y GIG mewn lleoliadau newydd, fel ysgol feddygol ym Mangor.”
“Mae Plaid Cymru wedi sicrhau amgueddfa pêl-droed i ogledd Cymru, a bydd y cyllid ychwanegol a sicrhawyd gennym yn golygu y bydd cyrff megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gweld cynnydd o 3.5% o leiaf yn eu cyllidebau. A thrwy ddyblu cyllideb Visit Wales gallwn wneud Cymru yn gyrchfan fyd-enwog i ymwelwyr a helpu’r busnesau sy’n dibynnu ar y fasnach ymwelwyr.”
“Nod Plaid Cymru yn wastad fu rhoi’r fargen orau i bobl Cymru, ac y mae ein bargen ar y gyllideb yn becyn buddsoddi enfawr o £119 miliwn fydd yn cryfhau’r GIG, yn hybu’r economi, gwella safonau addysgol a chyflwyno gwell gwasanaethau cyhoeddus. Yr ydym wedi llwyddo i gyflawni mwy mewn llai na chwe mis nac unrhyw blaid arall yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol, a byddwn yn parhau i frwydro dros fuddiannau pobl ym mhob cwr o Gymru.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter