Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cytundeb cyllideb a fydd yn dod â manteision gwirioneddol i bawb yng Nghymru.
Dywedodd Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian bod bargen Plaid Cymru ar y gyllideb yn cynnwys £40m ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl megis gwasanaeth cymorth iechyd meddwl amenedigol, buddsoddiad newydd mewn addysg feddygol yn y Gogledd, ac 80 o nyrsys ardal newydd.
Wrth siarad am y cytundeb, meddai Siân Gwenllian,
“Bydd bargen Plaid Cymru ar y gyllideb yn golygu buddsoddi mewn pethau sydd o bwys i bobl.
Fydd dim toriadau yn y gyllideb 'Cefnogi Pobl', sy'n darparu rhaglenni hanfodol ar gyfer atal digartrefedd a chymorth i deuluoedd sy'n ffoi rhag trais yn y cartref.
Mae prosiectau buddsoddi cyfalaf pwysig wedi’i gynnwys fel gwelliannau ffordd rhwng y gogledd a’r de, yn ogystal â chynllun grantiau i ffermwyr ifanc.
Bydd rhyddhad o 100% ar ardrethi ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, sydd o fudd i sector sy'n tyfu yn etholaeth Arfon.
Yr ydym yn rhwystredig fod y Llywodraeth wedi gwrthod ein galwadau am weithredu ar faterion hollbwysig megis y cap cyflog a fyddai'n helpu i recriwtio a chadw staff yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn anffodus bydd treblu ffioedd dysgu yn debygol o ddigwydd.
Bydd yn rhaid i’r Llywodraeth Lafur ateb i bobl Cymru pam ei fod yn gwrthod gweithredu ei haddewidion maniffesto ei hun ar y materion hyn. Nid oes unrhyw ymrwymiad ar gyfer Ysgol Feddygol yn y gogledd er gwaethaf buddsoddiad mewn addysg feddygol yn yr ardal.
Efallai y bydd hyn yn effeithio ar ein perthynas gyda Llafur wrth i ni symud ymlaen, ac rydym yn meddwl o ddifrif am hyn. Am nawr rydym wedi sicrhau buddsoddiad go iawn i wella gwasanaethau ac i roi hwb i gychwyn rhai syniadau arloesol yng Nghymru.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter