Mae Arfon yn cynnwys y wardiau canlynol: Arllechwedd, Bethel a'r Felinheli, Bontnewydd, Cadnant, Canol Bangor, Canol Bethesda, Canol Tref Caernarfon, Cwm-y-glo, Deiniolen, Dewi, Dwyrain Bangor, Gerlan, Glyder, Llanberis, Llanllyfni, Llanrug, Llanwnda, Menai, Peblig, Penisarwaun, Penygroes, Rachub, Tregarth a Mynydd Llandygai, Tryfan, Waunfawr, Y Faenol, Y Groeslon.
Mae gan y rhan fwyaf o'r wardiau hyn gynghorydd Plaid Cymru. Dyma restr isod:
Arllechwedd
Dafydd Meurig
Mae Dafydd yn cynrychioli Abergwyngregyn, Llandygai, Llanllechid, Talybont a Thy'n y Maes fel rhan o ward Arllechwedd. Roedd Dafydd yn allweddol wrth sicrhau cynlluniau atal llifogydd ar gyfer Talybont a thai Tanylôn yn dilyn llifogydd mawr 2012 a 2015, ac yn ddiweddar mae wedi bod yn Gadeirydd Partneriaeth Ogwen, yn un o sylfaenwyr Ynni Ogwen a llywodraethwr yn Ysgol Llandygai.
✉ Ebostiwch Dafydd.
Bethel a'r Felinheli
Sasha Williams ac Iwan Huws
Yn 2022, crewyd ward newydd Bethel a'r Felinheli drwy uno'r ddau bentref i greu un ward gyda dau gynghorydd.
Mae Sasha wedi bod yn gyfrifol am gynnal Clwb Ti a Fi Bethel, mae'n gyn-ysgrifenyddes a Chadeirydd Cylch Meithrin Bethel, Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Bethel, aelod o Gyngor Plwyf Llanddeiniolen, Ysgrifennydd Dawns i Eisteddfod Bethel, ac yn Drysorydd i Glwb Pêl-droed Bethel.
✉ Ebostiwch Sasha
✉ Ebostiwch Iwan
Bontnewydd
Menna Trenholme
Menna Trenholme yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Bontnewydd ac mae'n byw yng Nghaeathro efo Tudur, ei gŵr, a'i dau o blant bach. Yn 2022, penodwyd Menna yn Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol.
✉ Ebostiwch Menna
Cadnant
Dawn Lynne Jones
Mae Dawn Lynne Jones yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Cadnant yn nhref Caernarfon ers 2022. Yn ogystal â hynny bu'n gydlynydd ward Cadnant ar grŵp Cofis Curo Corona, mae wedi cyd-weithio gyda chriw Porthi Pawb, mae'n un o gyd-sefydlwyr prosiect O Law i Law, mae'n drysorydd grŵp cymunedol Llygaid Maesincla, Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maesincla, ac aelod o grŵp Carnifal Caernarfon.
✉ Ebostiwch Dawn
Canol Bangor
Huw Wyn Jones a Medwyn Hughes
Mae Canol Bangor yn ward dau aelod, ac mae Huw Wyn Jones a Medwyn Hughes yn cynrychioli'r ward ar ran Plaid Cymru.
Ymhlith rhai o lwyddiannau'r ddau mae:
- Cefnogi'r ymgyrch leol i lesteirio’r cynlluniau i godi fflatiau anferth ar lannau Bae Hirael.
- Gweithio mewn partneriaeth â thrigolion lleol a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o ddelio cyffuriau yng Nghaeau Ashley a’r Gwersyll Rhufeinig.
- Ffocws ar safle Ysgol Glanadda, a grant sylweddol i wella'r adeilad ar gyfer symud Ysgol Ein Harglwyddes i'r safle yn 2024.
- Tai newydd angenrheidiol i bobl leol ar Ffordd Euston.
- Llawer o welliannau i'r cae chwarae yn Heol Dewi.
- Goleuadau mwy llachar o dan Bont y Rheilffordd.
- Gwaith ail-wynebu sylweddol ar Hendrewen, Tan y Maes, Ger Nant, Ffordd Ainon, palmentydd Penchwintan, maes parcio Cae'r Deon a Donkey Lane.
✉ Ebostiwch Huw
✉ Ebostiwch Medwyn
Canol Bethesda
Rheinallt Puw
Mae Rheinallt yn cynrycholi rhan o Fethesda ers 2017. Mae'n angerddol dros sicrhau tegwch i deuluoedd ac unigolion ac mae'n llwyddo i gefnogi nifer yn yr ardal. Mae'n falch bod ei waith yn pwyso am dai yn ei ward wedi dwyn ffrwyth.
✉ Ebostiwch Rheinallt
Canol Tref Caernarfon
Cai Larsen
Rhwng 2017 a 2022 roedd Cai yn cynrychioli ward Seiont ar gynghorau Gwynedd a Chaernarfon. Ers 2022 mae'n cynrychioli ward newydd Canol Tref Caernarfon.
Bu'n Gadeirydd Porthi Dre Cyf. – y cwmni sy’n gyfrifol am siop O Law i Law yn Stryd Llyn a nifer o gynlluniau eraill. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyr grŵp Cofis Curo Corona – grŵp oedd yn cefnogi pobl fregus yn ystod y cyfnod clo. Yn ogystal â hynny mae wedi gwirfoddoli ar gynllun Fareshare – cynllun rhannu bwyd dros ben o archfarchnadoedd, wedi eistedd fel Llywodraethwr Ysgol yr Hendre ac Ysgol Syr Hugh Owen, yn ogystal ag Eistedd ar Fwrdd Rheoli Adra.
✉ Ebostiwch Cai
Cwm-y-glo
Berwyn Parry Jones
Mae Berwyn yn cynrychioli ward Cwm-y-glo ers 2017. Yn 2022 fe'i penodwyd yn Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.
Yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd mae wedi:
- Gweithio i sicrhau bod adeilad Ysgol Cwm y Glo yn cael ei drosglwyddo i Fenter Fachwen.
- Sicrhau uwchraddio'r llwybr troed o Gwm y Glo i Lanrug i fod yn llwybr aml bwrpas gyda goleuadau ar ei hyd.
- Sicrhau cylchfan ger Brynrefail.
- Cynrychioli'r Cyngor ar Fwrdd Adra.
- Eistedd fel aelod o Gyngor Cymuned Llanrug.
- Gwirfoddoli ar gynllun bwyd Fareshare y Cyngor Cymuned.
- Eistedd ar fyrddau Menter Fachwen a chwmni Byw’n Iach.
- Eistedd fel Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug
- Bod yn gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Brynrefail
Deiniolen
Elfed Wyn Williams
Mae Elfed yn cynrychioli bro ei febyd ar y Cyngor ers 2012.
Mae wedi:
- Gwella diogelwch y tu allan i Ysgol Gwaun Gynfi: yn cynnwys gosod tri set o oleuadau arafu traffig, arwyddion newydd a chyflymder gorfodol o 20 m.y.a.
- Chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau ymweliadau wythnosol gan y Post Symudol.
- Arwain y gwaith o adfer canolfan Tŷ Elidir a’i ddychwelyd i ddefnydd y gymuned yn 2014.
- Sicrhau llawer o waith adfer a thrwsio i ffyrdd, pontydd a llwybrau’r ardal yn sgil llifogydd 2012.
- Eistedd fel Aelod o’r Pwyllgor Diffibriliwr – sicrhau ‘diffib’ yn Garej Arfon, Tŷ Elidir, Caffi Lodge Dinorwig a Garej Beran.
Dewi
Gareth Roberts

Gerlan
Einir Wyn Williams

Mae Einir wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ac yn Gadeirydd ar y Cyngor. Mae'n cynrychioli ward Gerlan yn Nyffryn Ogwen ers 2022.
Mwy am Einir:
- Cynghorydd Cymuned Bethesda.
- Llywodraethwr Ysgolion Abercaseg a Phenybryn.
- Aelod gweithgar o bwyllgorau: Cylch Meithrin Cefnfaes, Neuadd Ogwen, Bwrlwm Haf, Yes Cymru Bethesda.
Glyder
Elin Walker Jones
Mae Elin yn gynghorydd sir a dinas Bangor dros ward Glyder ers dros ddegawd. Yn 2022 fe'i penodwyd yn Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd.
Mwy am Elin:
- Un o sylfaenwyr Parkrun Penrhyn.
- Cefnogi cymuned Maestryfan i uwchraddio’r cae chwarae a chreu gardd gymunedol.
- Brwydro am adeilad newydd Ysgol y Garnedd.
- Sicrhau llwybr cerdded newydd rhwng Ffordd Eithinog a Bryn Eithinog a chylchfan ar waelod Lôn y Bryn i liniaru’r traffig ysgol.
- Cefnogi Adra i adeiladu fflatiau Llys Elidir yn y ward.
- Mabwysiadu cynigion ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol a Chyngor Di-Blastig, ymysg eraill.
- Cynnal ymgyrchoedd casglu sbwriel.
Llanrug
Beca Brown
Etholwyd Beca yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Llanrug mewn is-etholiad yn 2021. Yn 2022 fe'i penodwyd yn Aelod Cabinet dros Addysg.
Mwy am Beca:
- Cynghorydd Sir a Chymuned Llanrug.
- Llywodraethwr Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Brynrefail.
- Aelod o bwyllgor craffu gofal a phwyllgor iaith Cyngor Gwynedd.
- Gwirfoddoli ar brosiectau bwyd yr ardal, y cynllun cinio dydd Sul, pecynnau bwyd a rhoddion FareShare.
Llanwnda
Huw Rowlands
Huw Rowlands yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Llanwnda. Mae Huw yn byw yn Dolydd ers 10 mlynedd ac mae'n gyn-gadeirydd ac aelod presennol o Gyngor Cymuned Llanwnda.
Menai
Ioan Thomas
Ioan Thomas yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Menai ar Gyngor Gwynedd, a'r aelod Cabinet dros Gyllid.
Mwy am Ioan:
- Ymddiredolwr a chyn Gadeirydd Ymddiredolaeth yr Harbwr.
- Cyfarwyddwr Galeri - yn ystod y datblygiad gwreiddiol a'r estyniad sy'n cynnwys sinemâu.
- Llywodraethwr Ysgol y Gelli.
- Llywodraethwr Ysgol Syr Hugh Owen.
- Aelod gweithgar o Grŵp Cymunedol Twthill.
Peblig
Dewi Wyn Jones
Mae Dewi Wyn Jones yn hogyn o Gaernarfon ac yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Peblig yn y dref.
Mwy am Dewi:
- Gwirfoddolwr yn ystod Covid: casglu presgripsiwns, siopa bwyd ac ati.
- Athro ysgol a chyn-weithiwr ieuenctid.
- Gweithgar yn lleol - yn trefnu sesiynau casglu sbwriel a gwirfoddoli mewn digwyddiadau.
Penygroes
Craig ab Iago

Craig ab Iago yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Penygroes.
Mwy am Craig:
- Aelod Cabinet Tai Gwynedd.
- Llywodraethwr Ysgol Dyffryn Nantlle.
- Llywodraethwr Ysgol Baladeulyn.
- Cyn lywodraethwr Ysgol Llanllyfni
- Cyn lywodraethwr Ysgol Nebo.
- Cadeirydd Llys Llywelyn Nantlle.
- Aelod o bwyllgor CaeFfest.
- Cyn aelod o Fwrdd Antur Nantlle a Siop Griffiths.
- Cyn sefydlydd Gyfarwyddwr Bragdy Bro Lleu.
Rachub
Paul Rowlinson

Paul Rowlinson yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Rachub, sy'n cyfuno'r pentref ei hun a rhannau o Fethesda.
Mwy am Paul:
- Byw yn Rachub ers 22 mlynedd.
- Cynghorydd Sir ers 2017.
- Ysgrifennydd Balchder Bro Ogwen.
- Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Ogwen.
- Aelod Llywodraethwyr Ysgol Llanllechid.
- Aelod Llywodraethwyr Cylch Meithrin Cefnfaes.
- Aelod o Fwrdd Ynni Ogwen.
- Cyn-gadeirydd Partneriaeth Ogwen.
- Gwirfoddolwr Cyfnod Covid.
- Gwirfoddolwr brechu Covid-19.
- Aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.
- Cadeirydd Bugeiliaid Stryd Bangor.
Tregarth a Mynydd Llandygai
Beca Roberts

Mae Beca yn gynghorydd dros ward Tregarth a Mynydd Llandygai. Mae wedi ei geni a'i magu yn Nhregarth ac wedi mynychu ysgolion Tregarth a Dyffryn Ogwen. Mae hi wedi gweithio i Bartneriaeth Ogwen yn y gorffennol ac yn frwd iawn dros hyrwyddo gweithredu cymunedol.
Tryfan
Arwyn 'Herald' Roberts
Arwyn Herald yw cynghorydd Plaid Cymru dros ward Tryfan, sy'n cynrychioli pentrefi Rhosgadfan, Y Fron a Charmel.
Mwy am Arwyn:
- Gweithio gyda'r Herald a'r Daily Post am 45 mlynedd.
- Cyn-lywodraethwr Ysgol Rhosgadfan am 10 mlynedd.
- Sefydlydd a chyn-gadeirydd Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle.
- Cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl Droed Nantlle Vale.
- Trysorydd Clwb Pêl Droed Mountain Rangers.
Waunfawr
Edgar Owen

Mae Edgar yn byw yn Waunfawr ers dros 40 mlynedd, yn Gynghorydd Cymuned ers bron i 40 mlynedd, ac yn Gynghorydd Sir ers 2017.
Mwy am Edgar:
- Llywodraethwr Ysgol Waunfawr.
- Llywodraethwr Ysgol Brynrefail.
- Sicrhau £25,000 o grantiau i bwyllgor Canolfan Waunfawr.
Cefnogi Sefydliadau'r Ardal:
Mae Edgar wedi cefnogi 11 o sefydliadau lleol, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trwy ddosbarthu £3000 i’w cefnogi
- Clwb Pêl Droed Waunfawr
- Y Cylch Meithrin
- Y Clwb ar ôl ysgol
- Ysgol Waunfawr
- Cangen leol yr Urdd
- Mynwent Caeathro
- Cae Chwarae Caeathro
- Diffibrilydd Betws Garmon
- Clwb Snwcer Waunfawr
- Cangen Merched y Wawr
- Clwb Bowlio Waunfawr
Y Faenol
Menna Baines

Bu Menna yn cynrychioli ward Pentir ar Gyngor Gwynedd rhwng 2017 a Mai 2022, ac ers hynny mae'n cynrychioli ward y Faenol.
Mwy am Menna:
- Adfer rhan o wasanaeth bws pentref Glasinfryn yn dilyn toriadau.
- Helpu pobl i gael tai cymdeithasol.
- Bod yn rhan o ymgyrch lwyddiannus i rwystro datblygiad tai enfawr ac anaddas mewn ward gyfagos.
- Helpu i ddatrys problemau yn stad Goetre Uchaf, Penrhosgarnedd.
- Dosbarthu pecynnau bwyd am ddim a helpu unigolion yn ystod y pandemig.
- Rhoi cefnogaeth allweddol i sefydlu deintyddfa newydd ym Mharc Menai sy’n cyflogi pedwar o bobl hyd yma
Gwaith yn y Gymuned:
- Eistedd ar y Pwyllgor Craffu Gofal, Panel Maethu, Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol a CYSAG (Cyngor Gwynedd).
- Cadeirydd Fforwm Ardal Bangor Ogwen (cadeirydd).
- Llywodraethwr Ysgol y Faenol ac Ysgol Tryfan.
- Aelod o Gyngor Cymuned Pentir.
- Cadeirydd pwyllgor Canolfan Penrhosgarnedd.
- Aelod o fwrdd golygyddol papur bro’r Goriad.
- Aelod o bwyllgor Menter Iaith Bangor.
Y Groeslon
Llio Elenid Owen

Mae Llio yn dod o’r Groeslon ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Mae ganddi radd mewn Cymraeg a Hanes o Brifysgol Aberystwyth a gradd meistr Hanes Cymru o Brifysgol Bangor.
Mae Llio'n wirfoddolwr cymunedol yn Yr Orsaf a chyda Ffrindiau Groeslon.
Mae'n gynghorydd dros ward y Groeslon ers 2022.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter