Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi addasu eu canllawiau gwreiddiol ar gyfer darparu grantiau i gynorthwyo busnesau bach sydd yn dioddef yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
Rhai wythnosau yn ôl, roedd Cyngor Gwynedd wedi adnabod y byddai canllawiau gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi golygu y byddai perchnogion ail gartrefi a oedd wedi trosi eu heiddo yn fusnes er mwyn osgoi talu unrhyw dreth hefyd yn gymwys i dderbyn grant o £10,000. Byddai hyn wedi costio rhwng £15miliwn a £20miliwn i’r pwrs cyhoeddus yng Ngwynedd yn unig.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Nid oeddem fel Cyngor yn ystyried bod y canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn briodol gan y byddent wedi galluogi perchnogion ail gartrefi yn y sir i hawlio grant o £10,000.
“Fel Arweinydd y Cyngor, fe godais y mater gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Mewn ymateb, fe wnaeth y Gweinidog newid y canllawiau ar gyfer gweithredu’r cynllun grant.
“Tra nad oeddem yn cytuno gydag union eiriad y newidiadau i’r canllawiau a gynigiwyd gan y Llywodraeth, rydym yn hyderus bod y geiriad newydd yn golygu na fydd perchennog unrhyw ail gartref yn gallu hawlio arian grant heb gyflwyno tystiolaeth bod y rhan helaeth o’u hincwm yn deillio o’r eiddo.
“Fel Cyngor rydym yn falch bod y gweinidog wedi gwrando arnom ac wedi derbyn ein dadleuon. O’r herwydd ni fydd y pwrs cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi’r rhai hynny sydd eisoes yn defnyddio rheolau Llywodraeth Cymru i osgoi talu trethi ar ail gartrefi.
“Wrth gwrs, yn wahanol i ail gartrefi, mae busnesau gosod unedau gwyliau gwirioneddol yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn yr arian yma, a byddwn yn eu hannog i gyflwyno cais i’r Cyngor os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter