Mae'r cynllun bwyd a lansiwyd yr Hydref diwethaf ar ystâd Ysgubor Goch yng Nghaernarfon yn mynd o nerth i nerth.
Mae 'Cyfran Deg' (‘Fare Share’) yn brosiect ledled y DU sydd yn ail-ddosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd ymysg prosiectau cymunedol sy'n cefnogi pobl fregus.
Mae gwirfoddolwyr o Gynllun Bwyd Caernarfon yn mynd i'w cangen leol o Tesco i gasglu bwyd dros ben bob nos Wener a nos Sadwrn.
Yr wythnos hon, ymunodd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, efo’r casgliad, a ymunodd â gwirfoddolwyr y bore canlynol wrth iddynt roi bara, llysiau a salad i ddefnyddwyr y prosiect.
"Mae hi wedi bod yn brofiad diddorol ac addysgiadol iawn treulio amser gyda gwirfoddolwyr a'r bobl sy'n defnyddio'r cynllun," meddai Siân Gwenllian.
"Mae'r bartneriaeth rhwng y gwirfoddolwyr a Tesco Caernarfon yn effeithlon iawn – mae un o'r gwirfoddolwyr yn cael neges destun ar y dydd Gwener neu nos Sadwrn gyda manylion o beth sydd ar gael. Maent wedyn yn ateb i gadarnhau y byddant yn ei gymryd, ac yna yn mynd i Tesco, lle mae aelod o staff yn dod â bwyd mewn cratiau.
"Mae hi mor galed y dyddiau hyn i rai teuluoedd i gael deupen llinyn ynghyd. Mae llawer o'r bobl sy'n defnyddio'r cynllun mewn gwaith ond yn dal yn ei chael yn anodd fforddio digon o fwyd ar gyfer eu teuluoedd."
Defnyddiwr rheolaidd o’r cynllun ers ei lansio'r llynedd ydi Yvette o Gaernarfon.
"Er fy mod mewn gwaith dwi dal i gael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd a dwi’n nabod llawer o bobl yn yr un sefyllfa", meddai.
"Mae gen i chwech o blant a dydi siop wythnosol byth yn mynd ddigon pell. Dwi’n mynd i’r ‘Fare Share’ oherwydd gallaf gael bara a phethau eraill sydd yn ddigon i mi tan fy siec gyflog nesaf. Mae'n beth annifyr i chi gyfaddef, bod 'na chi methu ymdopi weithiau, a dwi’n nabod pobl sy’n teimlo cywilydd yn dod yma, ond mae wedi bod yn achubiaeth, mewn gwirionedd. Ac mae'n braf cael sgwrs gyda gwirfoddolwyr ar fore Sadwrn."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter