Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi hoil’r Prif Weinidog ynghylch cynlluniau’r Llywodraeth i ddygymod â’r sefyllfa
Mewn llythyr at y Prif Weinidog yr wythnos hon, mae’r AS dros Arfon wedi mynegi pryderon ynghylch gallu’r gwasanaeth iechyd lleol i ymdopi â phwysau ychwanegol gan dwristiaid.
Roedd y gwleidydd yn ymateb i Ddiweddariad Brechu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n honni eu bod yn “disgwyl i’r nifer o ymwelwyr â’r ardal fod y tu hwnt i unrhyw beth a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol."
Yn ei llythyr, dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn “bryderus iawn” gyda’r cymal.
“Rwy’n bryderus iawn o ddarllen y cymal hwn yn y ddogfen.
“Mae hyn eisoes yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gwasanaethau ac mae’n debygol iawn o arwain at gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Delta.
“Hoffwn wybod ar fyrder beth yn union mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynllunio ar gyfer dygymod efo’r sefyllfa yma. A oes cynllun argyfwng mewn lle sydd yn tynnu’r holl bartneriaid ynghyd?
“Pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i Feddygon Teulu, Ysbytai, Gwasanaethau Cyhoeddus o bob math, yr Heddlu a’r llu eraill o asiantaethau fydd yn gorfod ymdopi gyda’r pwysau digynsail hyn?
“A pha gefnogaeth ychwanegol (ariannol ac o ran y gweithlu) fydd ar gael iddynt dros yr haf/hydref?
“Mae fy etholwyr angen sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i’w diogelu rhag drwg-effeithiau’r ymchwydd poblogaeth anferthol sydd yn digwydd yn ein cymunedau."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter