AS Arfon yn cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu'r argyfwng costau byw.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo llywodraeth y DU o anwybyddu’r argyfwng costau byw, wrth i ffigurau ddatgelu mai Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o ddefnydd o fanciau bwyd yn y DU gyda 4,140 o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu fesul 100,000 o bobl.
Wrth siarad yn ystod dadl ar Araith y Frenhines yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Williams fod llywodraeth y DU wedi methu â chynnig unrhyw ateb i roi diwedd ar dlodi ac anghydraddoldeb cynyddol – yng Nghymru a’r DU.
Dywedodd Hywel Williams AS:
'Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar bobl yn etholaeth Arfon a ledled Cymru. Fel mewn mannau eraill yn y DU, mae teuluoedd yn cael eu gorfodi ddewis rhwng bwyta neu gadw’n gynnes.'
‘Nid yw’n syndod mai Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o ddefnydd o fanciau bwyd yn y DU gyda 4,140 o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu fesul 100,000 o bobl. Mae pobl yn troi at fanciau bwyd - gan nad oes ganddyn nhw ddewis arall.'
'O Fangor i Gaernarfon yn fy etholaeth fy hun, mae banciau bwyd, a chynlluniau rhannu bwyd cymunedol yn achubiaeth i lawer sy'n cael trafferth gyda chostau byw. Mae'n adlewyrchiad o agenda llymder y Llywodraeth Dorïaidd hon bod cymaint o'n pobl fwyaf bregus bellach yn dibynnu ar bobl eraill am gymorth.'
'Yn y cartrefi tlotaf, mae gan un o bob tri gynilion o lai na £250. Y gyfradd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yw 1 o bob 6. Roedd y toriad o £20 i'r Credyd Cynhwysol, a gymerodd £286 miliwn oddi ar economi Cymru, yn drychineb llwyr i blant mewn teuluoedd incwm isel.'
'Yng Nghymru rydym wedi bod â lefelau uchel o dlodi ers degawdau. Mae tlodi yn cael effaith drychinebus a niweidiol ar fywydau pobl. Mae hyn yn arbennig o ddifrifol yng Nghymru gan fod gennym y gyfradd tlodi genedlaethol uchaf yn y DU.'
'Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yr uchaf yn y DU, gan effeithio ar draean o blant Cymru fel y'i mesurwyd yn 2019. Ac fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru dros y penwythnos, mae'r gyfradd honno bellach yn debycach i 40%.'
'Mae gan y tlodi parhaus hwn oblygiadau ar gyfer datblygiad plant, gan gynnwys niweidio eu hiechyd meddwl.'
'Mae Cymru ymhell i lawr rhestr flaenoriaeth y llywodraeth Geidwadol hon. Roedd Araith y Frenhines yn gyfle i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a darparu atebion hirdymor i dlodi ac anghydraddoldeb cynyddol – methiant llwyr fu ymgais y llywodraeth i wneud hynny.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter