Yn ogystal â thynnu sylw at ddiffyg mynediad at wasanaethau deintyddol yng Nghymru, fe wnaeth Siân Gwenllian yr achos dros gael ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi rhoi cynnig ar lawr y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi mewn prifysgolion i ddeintyddion yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddolyn y wlad.
Mewn dadl ar lawr y Senedd, fe wnaeth Siân Gwenllian AS honni fod y prinder gwasanaethau deintyddol drwy’r GIG yn broblem fawr yn ei hetholaeth, a manteisiodd ar y cyfle i alw am ysgol ym Mangor i hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol. Pasiwyd y cynnig gyda 29 yn pleidleisio o blaid a 15 yn ymatal.
Yn ôl Siân Gwenllian, cysylltodd ei swyddfa â chwe deintydd GIG yn ei hetholaeth ym mis Ebrill, a doedd yr un ohonyn nhw'n derbyn cleifion newydd drwy’r GIG. Yn ôl yr AS, mae cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi mewn prifysgolion yng Nghymru ar gyfer deintyddion yn hanfodol er mwyn gweld gwelliannau pellgyrhaeddol mewn gofal iechyd deintyddol yn Arfon a ledled Cymru.
Yn ôl Siân:
“Mae Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion, ac rydan ni’n dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu allan i Gymru er mwyn cynhyrchu niferoedd digonol o ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu. Y DU sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion y pen o gymharu ag aelodau mawr eraill o’r G7 yn Ewrop.
“Rydym hefyd yn gwybod bod mwy o ddeintyddion o Gymru yn gadael Cymru i astudio nag sy’n aros yma: mae 20 yn aros, 40 yn gadael. Mae’r sefyllfa’n anghynaladwy.
“Heb os, mae’r prinder deintyddion yn cyfrannu at greu’r system tair haen sy’n prysur ddatblygu yng Nghymru. Yn y system hon mae rhai yn ffodus i gael mynediad at ddeintydd GIG, gall eraill dalu i fynd yn breifat, a’r drydedd haen, yn anffodus, yw’r rhai sy’n methu cael mynediad at ddeintydd drwy’r GIG ac sy’n methu fforddio talu i fynd yn breifat. Mae’r problemau sy’n wynebu’r rheini yn y drydedd haen yn amlwg, ac mae ASau yn hen gyfarwydd â straeon erchyll am sepsis a phobol yn trio gwneud triniaethau deintyddol eu hunain yn eu cartrefi.
“Rŵan, byddai rhywun yn dychmygu ei bod hi’n fater o synnwyr cyffredin felly i gynyddu’r nifer o leoedd hyfforddi ym mhrifysgolion Cymru er mwyn cynyddu’r gweithlu i ddarparu’r gwasanaeth deintyddol cyhoeddus hwn sydd dybryd ei angen. Ond, i’r gwrthwyneb, mae’r Llywodraeth yn gosod cap ar nifer y lleoedd y gellir eu darparu yn ein hunig ysgol ddeintyddol yng Nghaerdydd, cap blynyddol o 74 o leoedd.
“Ac yn yr ysgol honno roedd 111 allan o 1,442, neu tua 8 y cant, o ymgeiswyr ysgol ddeintyddiaeth Caerdydd ar gyfer mynediad yn 2023-24 yn dod o Gymru. Gwyddom o’r data diweddaraf sydd ar gael mai dim on wyth o’r 111 o fyfyrwyr o Gymru a lwyddodd i gael lle y flwyddyn honno.
“Mae tystiolaeth bod cysylltiad rhwng lle mae myfyrwyr yn gwneud eu hyfforddiant deintyddol a lle maen nhw wedyn yn gweithio ac yn bwrw gwreiddiau yn eu blynyddoedd ffurfiannol.
“Mae yna gyfleusterau rhagorol ar gael ym Mangor yn yr academi ddeintyddol, er bod heriau cychwynnol yno, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor iechyd y dylid sefydlu ysgol ddeintyddiaeth newydd yn y gogledd.
“Heb os nac oni bai, byddai Bangor yn lleoliad ardderchog sy’n cynnig ei hun ar gyfer ysgol ddeintyddol, a gellid teilwra’r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion ardal sy’n gymysg o gymunedau trefol a gwledig.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter