Mae Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS Plaid Cymru Arfon ar ddeall bod yr ymgyrch i ddiogelu gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus.
Bydd gofal fasgiwlar argyfwng a chleifion preswyl yn parhau ym Mangor, er gwaethaf pryderon blaenorol bod y Bwrdd yn dymuno canoli'r gwasanaeth i ffwrdd o Ysbyty Gwynedd.
Mae Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS wedi cefnogi ymgyrchwyr lleol oedd yn honni bod y gwasanaeth hanfodol yma mewn peryg a bod angen dod a’r drefn o symud gwasanaethau i’r dwyrain i ffwrdd o Ysbyty Gwynedd i ben. Lansiwyd deiseb a cododd Siân Gwenllian y mater yn y Senedd a gan Hywel Williams yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn San Steffan.
Dywedodd Siân Gwenllian AC ei bod yn hyderus y bydd argymhellion am ddyfodol y gwasanaeth yn cael sêl bendith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fuan.
Mae’r argymhellion yn datgan y bydd Ysbyty Gwynedd yn parhau i ddarparu clinigau cleifion allanol, asesiadau cyn-llawdriniaeth, diagnosis, a llawdriniaethau gofal dydd fasgiwlar yn cynnwys mynediad fasgiwlar i gleifion sydd angen haemodialysis ac fe fydd gan yr ysbyty gefnogaeth lawn ar gyfer cleifion argyfwng a chleifion preswyl.
Mi fydd gwasanaeth arbenigol clefyd siwgr Ysbyty Gwynedd yn cael ei ymestyn ymhellach i gynnwys rhwydwaith o glinigau sy’n gwasanaethu Gogledd Cymru cyfan. Ysbyty Glan Clwyd yn unig fydd yn darparu ymyriadau radiolegol a llawfeddygol sylweddol ar gyfer cleifion gyda afiechyd aorta abdomenol a carotid.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Mae hyn yn newyddion gwych i Oogledd Orllewin Cymru ac yn dangos pa mor bwysig oedd yr ymgyrchu egnïol i gadw'r gwasanaeth fasgiwlar byd enwog yn Ysbyty Gwynedd. Mi fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu dros Ysbyty Gwynedd ac yn gwrthsefyll ymdrechion Llafur i ganoli gwasanaethau i ffwrdd o Fangor.
‘Yn dilyn ymgyrch tebyg bu i ni atal ymdrechion i symud gwasanaethau mamolaeth o Fangor. Rydym nawr yn gweld llwyddiant gydag ymgyrch fasgiwlar. Mi fyddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn parhau i ymgyrchu, ddim yn unig i warchod ond hefyd i ddatblygu Ysbyty Gwynedd.’
‘Yn ychwanegol i hyn, mae ein hymgyrch i gael Ysgol Feddygol ym Mangor yn codi momentwm. Mae anghenion gofal iechyd y bobl yn ein hetholaeth yn hanfodol o bwysig i Hywel a minnau.’
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Mae hyn yn lwyddiant trawiadol i’r ymgyrch i sicrhau dyfodol y gwasanaeth fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd sydd gydag enw da lleol a rhyngwladol am ragoriaeth ei ganlyniadau.’
‘Conglfaen darpariaeth gofal iechyd yw ansawdd a diogelwch a byddai’r ddau yma o dan fygythiad os byddai’r gwasanaeth fasgiwlar argyfwng a claf-preswyl yn symud i ffwrdd o Ysbyty Gwynedd.’
‘Byddai tynnu unrhyw wasanaethau i ffwrdd o Ysbyty Gwynedd yn rhoi bywydau'r rhai sy’n byw mewn cymunedau ynysig a lleoliadau daearyddol anodd mewn peryg diangen. Mae’n rhaid i ni barhau i ymgyrchu i gadw statws Ysbyty Gwynedd.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter