Ymateb Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS i'r newyddion mai aflwyddiannus fu trafodaethau rhwng Northwood Hygiene ac undeb Unite ynghylch dyfodol y ffatri ym Mhenygroes.
Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS,
'Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac yn ergyd gwirioneddol i'r ymdrechion i ddiogelu'r naw deg pedwar o swyddi lleol ym Mhenygroes. Mae cryn dipyn o waith lobïo wedi bod yn digwydd y tu ôl i'r llenni i sicrhau cefnogaeth ar draws pob lefel o lywodraeth leol a chenedlaethol i geisio amddiffyn y gweithlu medrus ym Mhenygroes, ar adeg pan na all yr economi leol fforddio colli cymaint o swyddi.'
'Er ein bod yn rhannu'r siomedigaeth yng nghanlyniad trafodaethau rhwng Northwood Hygiene ac Unite, mae'n dal yn wir bod yn rhaid edrych ar yr holl opsiynau eraill i ddod o hyd i ateb cynaliadwy, hirdymor sy'n diogelu'r safle a swyddi lleol. Byddwn yn trefnu cyfarfodydd pellach gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i drafod y camau nesaf. Mae ein meddyliau gyda'r gweithwyr lleol a'u teuluoedd ar yr adeg anodd ac ansicr hon.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter