Rydym yn cynrychioli 5 o blith 8 ward Bangor ynghyd â ward gyfagos Pentir, sy’n cynnwys Penrhosgarnedd. Fel cynghorwyr Bangor, rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan etholwyr am ffin bresennol ardal y clo lleol ac rydym yn deall y pryderon sydd wedi’u mynegi am y modd y mae’r ddinas wedi’i rhannu. Mae’r ardal sydd dan glo o 6pm heno (10 Hydref 2020) yn cynrychioli ardal Cyngor Dinas Bangor, h.y. wyth ward etholiadol y ddinas, ond nid yw’n cynnwys ward Pentir. Rhan o ward Pentir yw ardal boblog Penrhosgarnedd ond mae hithau hefyd rhan o Fangor ym meddyliau’r cyhoedd yn gyffredinol, fel sy’n wir hefyd am ardal gyfagos Treborth. Mae’r ffin fel ag y mae yn creu pob math o gymhlethdodau diangen o ran siopa (mae siopau mawr Ffordd Caernarfon yn rhan o’r ardal sydd dan glo), cael mynediad at wasanaethau allweddol ac at ardaloedd gwyrdd sy’n bwysig o ran lles pobl, ac yn y blaen. Mewn ambell ardal, mae’r ffin yn golygu bod pobl sy’n byw ar un ochr i’r ffordd mewn ardal sydd dan glo tra mae eu cymdogion ar draws y ffordd yn rhydd o’r cyfyngiadau. Mae’r sefyllfa hon yn creu cryn ddryswch yn barod.
Nid oeddem ni’n rhan o’r penderfyniad i rannu Bangor yn y modd hwn ac rydym yn cwestiynu’r rhesymeg y tu ôl iddo. Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu pa ardaloedd sy’n cael eu cloi ac ni ymgynghorwyd â ni, fel cynghorwyr Bangor, ynghylch y ffin. Rydym wedi gofyn i’r Cyngor godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym yn deall ei bod yn adeg anodd a gofidus i nifer o bobl, a hoffem ddiolch i drigolion Bangor am ddilyn y canllawiau cenedlaethol a lleol, ac am gadw’i gilydd a’u cymuned yn ddiogel.
Fe gewch ragor o wybodaeth ar wefannau Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol-bangor-cwestiynau-cyffredin
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter