Mae AS Arfon wedi codi pryderon am ddiffyg “difrifol” mewn gwasanaethau
Mae Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd, wedi gwyntyllu ei phryderon am gyflwr gwasanaethau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru gydag Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r AS yn honni bod cyfran uchel o’i gwaith achos yn ymdrin ag oedolion a phlant lleol sy’n methu â chael mynediad at wasanaethau deintyddol, a gofynnodd i’r Gweinidog Iechyd am amserlen ar gyfer datblygu Academi Ddeintyddol Bangor yn ei hetholaeth.
Ymateb Eluned Morgan oedd honni y byddai academi ddeintyddol gogledd Cymru yn cael ei sefydlu yn hydref 2022, a’i bod yn gobeithio y byddai agor yr academi yn arwain at “welliannau sylweddol” o ran mynediad cleifion yng ngogledd Cymru, a hynny “yn y dyfodol agos.”
Gwnaed sylwadau’r gweinidog mewn ymateb i gais gan AS Arfon, Siân Gwenllian, am ddiweddariad ar ddiffyg “difrifol” yn y ddarpariaeth mewn gwasanaethau deintyddol lleol.
Yn ôl yr AS Plaid Cymru:
“Yn gyson, mae etholwyr yn cysylltu â mi am eu bod yn dioddef oherwydd diffyg difrifol mewn gwasanaethau deintyddol.
“Mae’r nifer cynyddol sy’n methu â chofrestru gyda deintydd y GIG yn cynnwys plant. Yn y gorffennol mae cleifion wedi bod yn fodlon teithio i gael mynediad at wasanaethau, ond erbyn hyn nid oes unrhyw leoedd gan ddeintyddion ar draws gogledd Cymru.
“Mae rhestrau aros yn amrywio o 2 flynedd i 5. Mae cleifion yn disgwyl am ddiwrnodau am apwyntiadau brys hyd yn oed. Mae nifer ohonyn nhw’n ffonio 111, neu’n cael rhif penodol i’w ddeialu ond yn aml mae nhw’n methu â chael ateb.
“Mae un unigolyn wedi honni iddo ddeialu rhif 200 o weithiau, gan fethu â siarad ag aelod o staff.
“Rwy’n falch bod mymryn o newydd da i’r cleifion hyn, gyda sôn am Academi Ddeintyddol Bangor yn agor yn hydref 2022, ond mae’r sefyllfa’n argyfyngus ac mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r diffyg darpariaeth presennol.”
Mewn ymateb i bwyntiau Siân Gwenllian AS ar lawr y Senedd, honnodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru fod Covid yn parhau i roi straen ar y gwasanaethau, ond y byddai agor academi ddeintyddol newydd yn lleddfu’r pwysau.
“Mae'r sefyllfa yn un anodd o ran deintyddiaeth ar draws Cymru. Wrth gwrs, rŷn ni dal mewn sefyllfa lle mae COVID wedi effeithio ar y gwasanaeth. Roeddem ni i lawr at 50 y cant tan yn ddiweddar iawn, ac rydym ni nawr nôl at tua 80 y cant. Wrth gwrs, mae lot o bobl nawr eisiau gweld deintydd ar ôl aros cyhyd.
“O ran yr academi newydd, rwy'n falch iawn y bydd adcademi newydd yn agor ym Mangor yn hydref eleni, ac unwaith y bydd hi wedi ei sefydlu'n llawn, fe fyddwn ni'n disgwyl gweld access i 12,000 i 15,000 o bobl, a bydd honno ar agor chwech diwrnod yr wythnos.
“Felly, fe fydd hwnna'n gwneud newid sylweddol, gobeithio.
“Ond am y tymor byr, mae'r bwrdd iechyd wedi creu mwy o access i bobl sydd yn ffeindio'u hunain mewn sefyllfa urgent, ac maen nhw wedi creu access i'r rheini sy'n ffeindio eu hunain heb ddeintydd os oes yna emergency.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter